Michael Collins (gofodwr)
actor a aned yn 1930
Roedd Michael Collins (31 Hydref 1930 – 28 Ebrill 2021) yn ofodwr o'r Unol Daleithiau a ddaeth yn fwyaf adnabyddus fel aelod o'r criw Apollo 11 ym 1969, gyda Neil Armstrong a Buzz Aldrin.[1][2]
Michael Collins | |
---|---|
Ganwyd | Michael Collins 31 Hydref 1930 Rhufain |
Bu farw | 28 Ebrill 2021 o canser Naples |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog milwrol, gofodwr, hedfanwr, person busnes, peilot prawf, hunangofiannydd, actor, awyrennwr, entrepreneur |
Swydd | Assistant Secretary of State for Public Affairs |
Cyflogwr | |
Tad | James Lawton Collins |
Priod | Patricia Finnegan |
Plant | Kate Collins |
Gwobr/au | Y Groes am Hedfan Neilltuol, Urdd Diwylliant, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr am Wasanaeth Eithriadol i NASA, Washington State Book Award, Medal Aur y Gyngres, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Grande Médaille d'Or des Explorations, Langley Gold Medal, Gwobra Cullum mewn Daearyddiaeth, Gwobr 'Hall of Fame' i Ofodwyr UDA, Medal Hubbard, NASA Distinguished Service Medal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, International Space Hall of Fame, Wright Brothers Memorial Trophy |
llofnod | |
Arhosodd yn y llong ofod Columbia wrth i Armstrong ac Aldrin deithio lawr i wyneb y lleuad yn y glaniwr Eagle. Cafodd cynnig fynd ar deithiau eraill yn rhaglen Apollo ond wedi llwyddiant Apollo 11 nid oedd eisiau teithio eto i'r lleuad. Ymddeolodd o NASA yn 1970.
Cafodd Collins ei eni yn Rhufain, yr Eidal, yn fab i'r milwr James Lawton Collins (1882–1963) a'i wraig.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ McNally, Frank. "Men on a Mission – Frank McNally on a tale of two Michael Collinses". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-28.
- ↑ Murphy, Greg (28 Ebrill 2021). "Astronaut Michael Collins, part of Apollo 11 crew, dies aged 90". Irish Examiner (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Ebrill 2021.
- ↑ "Astronaut Fact Book" (PDF). NASA. April 2013. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 29 Awst 2017. Cyrchwyd April 18, 2018.