Michael Turner
Dyn busnes yw Michael John Turner (ganwyd 5 Awst 1948) a oedd yn brif weithredwr cwmni BAE Systems[1] ac erbyn hyn yn gadeirydd cwmni Babcock International. Roedd hefyd yn gadeirydd cwmni GKN plc.
Michael Turner | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1948 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweithredwr mewn busnes |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE |
Fe'i addysgwyd yn Ysgol Dechnegol Didsbury. Enillodd radd BA yng Ngholeg Polytechnig Manceinion ym 1970 tra'n gweithio i gwmni Hawker Siddeley. Chwaraeodd i dïm bêl-droed y coleg.
Daeth yn brif weithredwr BAE ym mis Mawrth 2002, a gweithiodd yno hyd at 2008.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Bloomberg
- ↑ BAE Systems boss to leave in 2008 BBC News - 16 October 2007