Microdon
Math o ymbelydredd electromagnetig yw microdon. Fel arfer mae gan microdonnau donfeddi rhwng tua 30 cm ac 1 mm, sy'n cyfateb i amleddau rhwng 1 GHz a 300 GHz. Fodd bynnag, nid yw'r amrediad hwn wedi'i ddiffinio'n llym: mae meysydd astudio gwahanol yn defnyddio eu ffiniau eu hunain i wahaniaethu rhwng microdonnau ac isgoch pell, ymbelydredd terahertz, a thonnau radio UHF.[1][2][3][4][5][6]
Math | ton electromagnetig |
---|---|
Rhan o | sbectrwm electromagnetig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae microdonnau'n dilyn llwybr sy'n debyg i donnau golau, hynny yw llinell syth. Yn wahanol i donnau radio ag amledd is, nid ydynt yn diffreithio o amgylch bryniau, nid ydynt yn dilyn wyneb y ddaear, ac nid ydynt yn adlewyrchu o'r ionosffer. Felly pan ddefnyddir microdonnau fel cyfrwng cyfathrebu, mae'r pellter y maent yn ei deithio yn cael ei gyfyngu gan y gorwel gweledol (tua 40 milltir, 64 km). Ar amleddau uchel, maent yn cael eu hamsugno gan nwyon yn yr atmosffer, gan gyfyngu ar bellteroedd cyfathrebu ymarferol i tua 1 km.
Defnyddir microdonnau'n helaeth mewn technoleg fodern, er enghraifft mewn radar, radio-seryddiaeth, rhwydweithiau cyfnewid radio microdon, cysylltiadau cyfathrebu pwynt-i-bwynt, rhwydweithiau diwifr, cyfathrebu lloeren, triniaethau meddygol, gwresogi diwydiannol, ac ar gyfer coginio bwyd mewn poptai microdon.[7]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Hitchcock, R. Timothy (2004). Radio-frequency and Microwave Radiation. American Industrial Hygiene Assn. t. 1. ISBN 978-1931504553.
- ↑ Kumar, Sanjay; Shukla, Saurabh (2014). Concepts and Applications of Microwave Engineering. PHI Learning Pvt. Ltd. t. 3. ISBN 978-8120349353.
- ↑ Jones, Graham A.; Layer, David H.; Osenkowsky, Thomas G. (2013). National Association of Broadcasters Engineering Handbook, 10th Ed. Taylor & Francis. t. 6. ISBN 978-1136034107.
- ↑ Pozar, David M. (1993). Microwave Engineering Addison–Wesley Publishing Company. ISBN 0-201-50418-9. (Saesneg)
- ↑ Sorrentino, R. and Bianchi, Giovanni (2010) Microwave and RF Engineering, John Wiley & Sons, p. 4, ISBN 047066021X.(Saesneg)
- ↑ "Electromagnetic radiation - Microwaves, Wavelengths, Frequency | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Awst 2023.
- ↑ "Microwave Oven". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). 26 Hydref 2018. Cyrchwyd 19 Ionawr 2019.