Ymbelydredd electromagnetig
Tonnau'n teithio ar eu pennau eu hunain drwy ddefnydd neu wacter ydyw ymbelydredd magnetig (electromagnetic waves yn Saesneg).
Ceir nifer o wahanol fathau, sy'n cael eu dosbarthu yn ôl amlder y don; mae'r gwahanol fathau'n cynnwys: tonnau radio, meicrodonnau, ymbelydredd terahertz, ymbelydredd is-goch, golau gweladwy, ymbelydredd uwchfioled, pelydr-X, a phelydrau gama. O'r rhain, tonnau radio ydyw'r hiraf a phelydrau gama sydd a'r byrraf. Mae gwahanol anifeiliaid yn gweld gwahanol ranau o'r spectrwm hwn.
Mae ymbelydredd magnetig yn cario egni a momentwm a all gael gael ei drosglwyddo pan fo'n taro gwrthrych.
Mae'r theori cwantwm yn disgrifio'r cydadweithio rhwng ymbelydredd magnetig â mater megis electronau mewn theori a elwir yn theori electrodeinameg.