Byd mytholegol a grëwyd gan yr awdur J. R. R. Tolkien yn ei gasgliad o lyfrau The Lord of the Rings yw'r Middle Earth (y Canol Fyd). Yn y byd dychmygol hwn y lleolir y rhan fwyaf o waith Tolkien. Mae'r storiau The Hobbit, The Lord of the Rings wedi'u lleoli'n gyfangwbwl yn Middle Earth, a chryn dipyn o The Silmarillion a Unfinished Tales. Er mai dychmygol yw'r byd hwn, dywedodd Tolkien mae'r Ddaear ydyw mewn gwirionedd - tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl.[1]

Lluniodd Tolkien ei hun nifer o fapiau'n dangos Middle Earth, a rhannau o'r byd hwnnw yn enwedig ar gyfer The Hobbit, The Lord of the Rings, The Silmarillion, ac Unfinished Tales.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dennis Gerrolt, Now Read On... cyfweliad, BBC, Ionawr 1971 [1] Archifwyd 2012-09-06 yn Archive.is