J. R. R. Tolkien

ieithegydd ac awdur Saesneg (1892-1973)

Roedd John Ronald Reuel Tolkien (3 Ionawr 18922 Medi 1973) yn ieithydd ac yn academydd amlwg, ac yn athro ar lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen rhwng 1925 a 1945, cyn darlithio ar yr iaith Sacsonaidd yno rhwng 1945 a 1959. Roedd hefyd yn Babydd o ymroddedig. Mae Tolkien fwyaf enwog am ysgrifennu’r llyfrau The Hobbit, The Lord of the Rings a The Silmarillion, sydd wedi eu selio ar fyd ffantasi Middle-earth.

J. R. R. Tolkien
FfugenwOxymore Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Ionawr 1892 Edit this on Wikidata
Bloemfontein Edit this on Wikidata
Bu farw2 Medi 1973 Edit this on Wikidata
o niwmonia'r ysgyfaint, briw Edit this on Wikidata
Bournemouth Edit this on Wikidata
Man preswylBirmingham Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd, bardd, academydd, awdur plant, cyfieithydd, beirniad llenyddol, awdur ysgrifau, swyddog milwrol, awdur, ysgrifennwr, hanesydd, darlunydd, athro, rhyddieithwr, ieithegydd Edit this on Wikidata
SwyddAthro Eingl-Sacsonaidd yn Rawlinson and Bosworth Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Hobbit, The Lord of the Rings, The Silmarillion, Tree and Leaf, Roverandom, The Adventures of Tom Bombadil, Beowulf: The Monsters and the Critics Edit this on Wikidata
Arddullffantasi, llenyddiaeth plant, barddoniaeth, rhyddiaith Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGeorge MacDonald, Edward Wyke Smith, Jules Verne, H. Rider Haggard, Lord Dunsany, Edward Burne-Jones, William Morris, G. K. Chesterton, Elias Lönnrot, Beowulf Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluKluczbork Edit this on Wikidata
MudiadInklings Edit this on Wikidata
TadArthur Reuel Tolkien Edit this on Wikidata
MamMabel Suffield Edit this on Wikidata
PriodEdith Tolkien Edit this on Wikidata
PlantJohn Tolkien, Michael Tolkien, Christopher Tolkien, Priscilla Tolkien Edit this on Wikidata
LlinachY Tolkeiniaid Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Gwobr Prometheus - Hall of Fame, Gwobr Nebula am y Sgript Orau, Gwobr Nebula am y Sgript Orau, Gwobr Locus am y nofel Ffantasi Orau, Gwobr Nebula am y Sgript Orau, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Ffurf Hir, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Ffurf Hir, Gwobr Ffantasi Rhyngwladol, Gwobr Ditmar Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://tolkienestate.com Edit this on Wikidata

Ganed Tolkien yn Bloemfontein, Orange Free State, (De Affrica nawr) ond symudodd y teulu i Loegr pan oedd yn dair oed.

Tolkien ac iaith golygu

O oed cynnar, pan welodd enwau Cymraeg ar drelars glo o dde Cymru, fe ymddiddorodd Tolkien mewn ieithoedd. Graddiodd mewn ieitheg Hen Roegaidd, ac ym 1915 graddiodd gyda Hen Islandeg fel pwnc arbennig. Gweithiodd ar Eiriadur Saesneg Rhydychen rhwng 1918 a 1920. Serch hyn, ei brif ddiddordebau ieithyddol oedd Hen Saesneg a'r Gymraeg.

Aeth Tolkien ati i ddyfeisio nifer o ieithoedd gwahanol ar gyfer The Lord of the Rings, yn cynnwys Sindarin (a seliwyd ar y Gymraeg) a Quenya (a seliwyd ar Ffinneg). Hen Saesneg, neu Rohirric, oedd iaith gwerin gwlad ffuglennol Rohan.

Yn ei draethawd English and Welsh, dywedodd: Welsh is of this soil, this island, the senior language of the men of Britain; and Welsh is beautiful.[1]

Ysgrifau Eraill golygu

Yn ogystal â'r enwog The Hobbit a The Lord of the Rings ysgrifennodd Tolkien weithiau yn ymwneud a'i fyd chwedlonol. Ysgrifennodd The Silmarillon cyn yr uchod, sy'n trafod hen hanesion Middle Earth yn ei hoes gyntaf. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd hefyd nifer o ysgrifau gwahanol yn trafod gwahanol agweddau o'i fyd amrywiol.

Ym 1955 traddododd ei ddarlith English and Welsh i Brifysgol Rhydychen, yn disgrifio'r Gymraeg fel iaith 'brydferthach na'r Saesneg': Welsh is of this soil, this island, the senior language of the men of Britain; and Welsh is beautiful.

Golygwyd rhai o'i weithiau anghyhoeddedig gan ei fab, Christopher Tolkien.

Cyfeiriadau golygu

  1. WikiQuote; adalwyd 17 Rhagfyr 2013