Arlunydd o Gymro oedd Mihangel Jones (194022 Mawrth 2018).

Mihangel Jones
Ganwyd1940 Edit this on Wikidata
Ceredigion Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mawrth 2018 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Drefaldwyn a magwyd ef ar fferm. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i Loegr, ac astudiodd yng Ngholeg Celf Twickenham am 6 mlynedd.[1]

Rhwng 1961 a 1982 gweithiodd fel darlunydd llawrydd. Datblygodd enw da yn rhynwgladol ym maes darlunio llyfrau a cylchgronau, posteri a hysbysfyrddau.[2]

Wedi ymddeol, dychwelodd i Gymru ac aeth ati i adnewyddu hen ffermdy 16G yn Nolgellau i greu cartref a stiwdio ar gyfer ef a'i gathod. Bu farw ym Mawrth 2018 wedi cyfnod hir o waeledd.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Marw Mihangel Jones, arlunydd creadigol a gwahanol , Golwg360, 4 Ebrill 2018.
  2.  MIHANGEL JONES RCA 1940 - 2018. welshart.net. Adalwyd ar 4 Ebrill 2018.
  3.  Facebook - Ffin y Parc Gallery. Galeri Ffin y Parc (24 Mawrth 2018).

Dolenni allanol golygu