Sylfaenydd Reiki ydy Mikao Usui (臼井甕男, 15 Awst 18659 Mawrth 1926). Sefydlodd Usui gymdeithas yn Japan o'r enw Usui Reiki Ryōhō Gakkai (臼井靈氣療法學會 ym Mandarin Traddodiadol, sy'n golygu 'Cymdeithas Therapi Egni Ysbrydol Usui'). Roedd ganddo dros 2,000 myfyriwr ar un pryd, a hyfforddodd 21 athro erbyn ei farwolaeth.

Mikao Usui
Ganwyd15 Awst 1865 Edit this on Wikidata
Gifu Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mawrth 1926 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Fukuyama Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
GalwedigaethReiki practitioner Edit this on Wikidata

Pum Cysyniad Usui golygu

Mae cymyn Usui yn dweud y dylai person weithio ar yr hyn y gellir ei wella a derbyn yr hyn na ellir ei newid. Dyma'r rysáit am fywyd hapus yn ei ôl ef. Ymddangosir hanfod y ddysgeidiaeth hon gyda'r pum cysyniad neu bum egwyddor:[1]

Y gelf gyfrinachol o wahodd hapusrwydd,

Y feddyginiaeth wyrthiol ar gyfer pob un afiechyd.

O leiaf am heddiw:

Peidiwch â gwylltio,
Peidiwch â phoeni,
Byddwch yn ddiolchgar,
Gweithiwch gyda diwydrwydd,
Byddwch yn garedig wrth bobl.

Bob bore a noswaith, ymunwch eich dwylo â'i gilydd mewn myfyrdod a gweddïo gyda'ch calon.
Datganwch gyda'ch meddwl a llafarganu gyda'ch genau.

Er mwyn gwella'r meddwl a'r corff.
Usui Reiki Ryōhō.

Y sylfaenydd,
Mikao Usui.

Nodiadau golygu

  1. "Axel Ebert gyda chymorth Ando Takashi". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-27. Cyrchwyd 2010-03-24.