Ymarfer ysbrydol[1] a ddatblygwyd gan Fwdhydd Japaneaidd o'r enw Mikao Usui ym 1922 yw Reiki (霊気 yn Shinjitai). Mae'n defnyddio techneg o'r enw cledr-iacháu fel math o feddygaeth amgen a chyflenwol a ddosberthir weithiau fel meddygaeth ddwyreiniol yn ôl rhai cyrff proffesiynol.[2] Trwy ddefnyddio'r dechneg hon, mae ymarferwyr yn credu eu bod yn trosglwyddo egni'r bydysawd (h.y., reiki) ar ffurf ki trwy'r cledrau, sy'n caniatáu i hunan-iacháu a chyflwr o gydbwysedd ddigwydd.[3]

Reiki
Math o gyfrwngplacebo Edit this on Wikidata
MathMeddyginiaeth amgen Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1922 Edit this on Wikidata
GwladYmerodraeth Japan Edit this on Wikidata
Enw brodorol霊気 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun Japaneg. Heb [[|rendro cymorth]] priodol, efallai'r gwelwch farciau cwestiwn, blychau, neu symbolau eraill yn lle kanji a kana.

Mae dau brif gangen o Reiki, a chyfeirir atynt yn Reiki Japaneaidd Traddodiadol a Reiki'r Gorllewin fel arfer. Er y gall gwahaniaethau fod yn eang yn eu hystod rhwng canghennau a thraddodiadau, y prif wahaniaeth ydy'r defnydd o safleoedd dwylo sydd wedi'u safoni gan Reiki'r Gorllewin, yn hytrach na dibynnu ar osod sythweledol o'r dwylo (gweler isod), a ddefnyddir yn aml gan ganghennau o Reiki Japaneaidd. Mae gan y ddwy gangen hierarchaeth tair haen o raddau fel arfer, a chyfeirir atynt fel arfer fel y Radd Gyntaf, yr Ail Radd, a'r Radd Meistr/Athro, lle cysylltir gwahanol sgiliau a thechnegau â phob lefel wahanol.

Mae'r cysyniad o ki sydd wrth wraidd Reiki yn sbeciannol ac nid oes tystiolaeth wyddonol yn bodoli; casglwyd adolygiad systematig o brofion clinigol ar hap a gynhaliwyd yn 2008 fod "y dystiolaeth yn annigonol i awgrymu fod reiki yn driniaeth effeithiol am unrhyw gyflwr. Felly, mae gwerth reiki heb ei brofi o hyd."[4] Mae'r American Cancer Society[5] a'r National Center for Complementary and Alternative Medicine[6] hefyd wedi darganfod nad oes tystiolaeth glinigol neu wyddonol sy'n cefnogi honiadau fod Reiki yn effeithiol wrth drin unrhyw afiechyd.

Tarddiad yr enw

golygu
 
Mikao Usui 臼井甕男 (15 Awst 1865 – 9 Mawrth 1926)

Mae'r gair Japaneg Reiki ("霊気" yn Shinjitai neu "レイキ" yn Katakana) yn golygu "awyrgylch dirgel / pŵer ysbrydol," ac yn air benthyg o'r gair Tsieinëeg língqì ("靈氣" yn Tsieinëeg Traddodiadol a "灵气" yn Tsieinëeg Syml). Weithiau fe'i cyfieithir gan rai geiriaduron i olygu "dylanwad ysbrydol (o fynyddoedd ayyb) / clyfrwch".[7] Mae'r gair yn ymuno'r geiriau rei (), sy'n golygu "bwgan, ysbryd, enaid / goruwchnaturiol, gwyrthiol, dwyfol; corff awyrol", â ki (), sy'n golygu "nwy, aer / anadl / egni / grym / awyrgylch / tymer / bwriad / emosiwn, sylw", ac yn golygu ki yma, sy'n golygu "egni ysbrydol / egni bywiol / grym bywyd / egni o fywyd".[8]

Gellid defnyddio'r gair fel enw, gan gyfeirio at naill ai'r egni tybiedig neu'r modd therapiwtig sydd wedi'i seilio arno, er fe'i defnyddir fel berf ac ansoddair fel arfer. Gyda thrawslythrennu, nid oes modd cyfieithu gair gyda thrachywiredd sy'n ymwneud â'r iaith wreiddiol, ac mae rhai awduron y Gorllewin yn ei gyfieithu'n llac i olygu "egni bywyd yr hollfyd".[9] Mae'r bathiad hwn yn cam-gyfieithu'n rhannol, gan mai "egni bywyd" yw ystyr ki, ond nid yw rei yn golygu "yr hollfyd."

Gwreiddyn

golygu
Gweler hefyd y Pum cysyniad a Llinell Amser Hanes Reiki
 
Chujiro Hayashi 林 忠次郎 (1879 - 1940)

Datblygwyd Reiki gan Mikao Usui (臼井甕男) ym 1922 pan oedd yn perfformio Isyu Guo, cwrs hyfforddi Bwdhaidd o un ar hugain diwrnod a gynhaliwyd ar Fynydd Kurama.[10] Ni wyr neb yn union yr hyn oedd yn rhaid iddo wneud yn ystod ei hyfforddiant, er mae'n bosibl ei fod wedi cynnwys myfyrio, ymprydio, llafarganu, a gweddïo.[11][12] Yn ôl y sôn, cafodd Usui y wybodaeth a phŵer ysbrydol i roi ac adiwnio pobl eraill i'r hyn a alwyd yn Reiki ganddo o ganlyniad i ddatguddiad cyfriniol, a ddaeth i mewn i'w gorff trwy ei siacra'r goron.[11] Ym mis Ebrill 1922, symudodd Usui i Tokyo er mwyn sefydlu'r Usui Reiki Ryōhō Gakkai ("臼井靈氣療法學會" ym Mandarin Traddodiadol, Cymdeithas Therapi Egni Ysbrydol Usui) ac i barhau â thrin pobl ar raddfa fawr gyda Reiki.[11][13]

Yn ôl yr arysgrif ar ei faen coffa,[14] addysgodd Usui Reiki i fwy na 2,000 pobl yn ystod ei oes, a chyrhaeddodd un ar bymtheg o'r myfyrwyr hyn at y lefel Shinpiden, lefel sy'n gyfartal i'r drydedd radd yn y Gorllewin, neu lefel y Meistr/Athro.[15] Wrth addysgu Reiki yn Fukuyama (福山市, Fukuyama-shi), cafodd Usui strôc, a bu farw ar 9 Mawrth 1926.[14]

Datblygiad cynnar

golygu
 
Hawayo Takata (24 Rhagfyr 1900 - 11 Rhagfyr 1980)

Ar ôl marwolaeth Usui, cymerodd J. Ushida, myfyriwr Usui, drosodd fel llywydd y Gakkai.[16] Fe oedd yn gyfrifol am greu a chodi maen coffa Usui a sicrhau'r cynhelir safle bedd.[16] Roedd Iichi Taketomi yn olynydd Ushida, wedi'i ddilyn gan Yoshiharu Watanabe a Kimiko Koyama. Mr. Kondo yw'r olynydd cyfredol a ddaeth yn llywydd ym 1998.[16] Mae'r un ar bymtheg Meistr a ddysgwyd gan Usui yn cynnwys Toshihiro Eguchi, Jusaburo Guida, Ilichi Taketomi, Toyoichi Wanami, Yoshihiru Watanabe, Keizo Ogawa, J. Ushida, a Chujiro Hayashi (林 忠次郎 Hayashi Chūjirō).[16][17] Gadawodd Hayashi y Gakkai a sefydlodd ei glinig ei hun lle rhoddodd driniaeth, addysgodd, ac adiwniodd bobl i Reiki. Symleiddiodd ddysgeidiaethau Reiki, gan bwysleisio ar iacháu corfforol a defnyddio set o dechnegau Reiki mwy strwythuredig a symledig.[18] I'r clinig hwn y cyfeiriwyd Hawayo Takata.[16]

Ar ôl cael llawer o sesiynau Reiki gan hyfforddeion Hayashi yn ei glinig ar gyfer afiechydon (megis poen abdomenol ac asthma er enghraifft), hyfforddodd Hayashi Takata sut i ddefnyddio Reiki,[19][20] a daeth Takata yn Feistr Reiki ar 21 Chwefror 1938.[19][21] Aeth hi ymlaen i sefydlu llawer o glinigau Reiki yn Hawaii, a lleolodd un ohonynt yn Hilo.[19] Ar ôl gwneud hyn, aeth hi i deithio drwy Unol Daleithiau America, yn ymarfer ac addysgu'r ddau lefel cyntaf i eraill.[22] Ym 1970, dechreuodd i hyfforddi Meistri Reiki.[23] Yn ystod y cyfnod hwn, cyflwynodd hefyd y term Meistr Reiki ar gyfer y lefel Shinpiden.[24] Pwysleisiodd bwysigrwydd o godi tâl am driniaeth ac addysgu Reiki, a chododd dâl o $10,000 (£6,500 neu 7,400 yn fras) ar gyfer hyfforddiant Meistr.[23]

Bu farw Takata ar 11 Rhagfyr 1980,[23][25] a hyfforddodd 22 Meistr Reiki erbyn hynny.[26][27] Gellid achredu'r mwyafrif o Reiki a addysgir y tu allan i Japan i'w gwaith.[28]

Cydsyniadau Usui a'r Pum Egwyddor

golygu

Roedd Usui yn edmygydd o waith llenyddol Ymerawdwr Meiji (明治天皇 Meiji tennō). Pan yr oedd wrthi'n datblygu ei system, crynhodd Usui waith yr ymerawdwr i mewn i set o egwyddorion moesol (a elwir yn "Cydsyniadau Usui" 概念 Gainen), ac adnabyddir nhw (hynny yw, y pum egwyddor) fel y Pum Archebiant bellach (五戒 Gokai, sef "Y Pum Gorchymyn" o ddysgeidiaethau Bwdhaidd o fod yn waharddedig rhag lladd, dwyn, camymddygiad rhywiol, dweud celwydd, ac am anghymedroldeb). Mae'n gyffredin i athrawon ac ymarferwyr i geisio cadw at y pum archebiant, neu egwyddor, hyn.[29]