Mike Hawthorn
Gyrrwr rasio o Loegr oedd John Michael ("Mike") Hawthorn (10 Ebrill 1929 – 22 Ionawr 1959). Ganwyd ym Mexborough, De Swydd Efrog.
Mike Hawthorn | |
---|---|
Ganwyd | 10 Ebrill 1929 Mexborough |
Bu farw | 22 Ionawr 1959 o damwain car Guildford |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gyrrwr Fformiwla Un |
Chwaraeon |
Dechreuodd ei yrfa fel gyrrwr Fformiwla Un ym 1952, ar ôl dwy flynedd o yrru ceir mewn cystadlaethau. Ym 1955 enillodd y 24 Heurs du Mans, mewn ras ddadleuol lle cafodd 84 o wylwyr eu lladd. Ym 1958 enillodd y bencampwriaeth Fformiwla Un, y gyrrwr cyntaf o'r Deyrnas Unedig i wneud hynny. Cyhoeddodd ei ymddeoliad o Fformiwla Un ar unwaith, wedi iddo gael ei effeithio'n fawr gan farwolaeth ei gyd-dîm a'i ffrind Peter Collins ddau fis yn gynharach yn ystod Grand Prix yr Almaen.
Cafodd Hawthorn ei ladd mewn damwain ffordd ger Guildford dri mis ar ôl ei ymddeol.