Mike Hopkins
Golygydd sain o Seland Newydd oedd Michael Alexander Hopkins (bu farw 30 Rhagfyr 2012 yn 53 oed). Cydweithiodd gyda'r cyfarwyddwr a chynhyrchydd Peter Jackson ar nifer o ffilmiau, gan gynnwys Braindead, Heavenly Creatures, The Frighteners a chyfres The Lord of the Rings.
Mike Hopkins | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1959 Greytown |
Bu farw | 30 Rhagfyr 2012 o boddi Greytown |
Dinasyddiaeth | Seland Newydd |
Galwedigaeth | peiriannydd sain |
Gwobr/au | Academy Award for Best Sound Editing |
Cyd-enillodd Hopkins Wobr yr Academi am olygu sain yn 2003 gyda Ethan Van der Ryn am eu gwaith ar The Lord of the Rings: The Two Towers, ac yn 2006 enillodd y ddau yr un Oscar eto am eu gwaith ar King Kong.[1] Enillodd Hopkins hefyd tair Gwobr Ffilm a Theledu Seland Newydd.[2]
Bu farw ar 30 Rhagfyr 2012 trwy foddi mewn damwain rafftio ar Afon Waiohine, Ynys y Gogledd.[3][4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Mike Hopkins: Oscar-winning sound editor who worked with Peter Jackson. The Independent (3 Ionawr 2013). Adalwyd ar 18 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Szalai, George (31 Rhagfyr 2012). Oscar-Winning Peter Jackson Collaborator Mike Hopkins Dies in Rafting Accident. The Hollywood Reporter. Adalwyd ar 1 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Wairarapa Police name Waiohine River victim. Heddlu Seland Newydd (31 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 1 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Oscar winner Michael Hopkins dies in rafting accident. BBC (31 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 1 Ionawr 2013.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Mike Hopkins ar IMDb