Mikheil Kavelashvili
Gwleidydd a chyn bêl-droediwr proffesiynol o Georgia yw Mikheil Kavelashvili (ganed 22 Gorffennaf 1971) sy'n arlywydd etholedig Georgia.
Mikheil Kavelashvili | |
---|---|
Mikheil Kavelashvili yn 2014. | |
Ganwyd | 22 Gorffennaf 1971 Bolnisi |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Swydd | Member of the Parliament of Georgia |
Taldra | 180 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Georgian Dream |
Chwaraeon | |
Tîm/au | FC Basel, Manchester City F.C., FC Luzern, FC Alania Vladikavkaz, FC Aarau, C.P.D. Dinamo Tbilisi, FC Sion, Grasshopper Club Zürich, FC Zürich, FC Alania Vladikavkaz, Tîm pêl-droed cenedlaethol Georgia |
Safle | blaenwr |
Ganed ef yn Bolnisi, Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Georgia, pan oedd y wlad yn rhan o'r Undeb Sofietaidd. Cychwynnodd ei yrfa bêl-droed gyda Dinamo Tbilisi, wedi iddo gyflawni system ieuenctid y clwb ym 1989. Chwaraeodd i Tbilisi nes treulio tymor ar fenthyg i Alania Vladikavkaz, yn Rwsia, ym 1995. Ymunodd â Manchester City ym 1996, a chwaraeodd yn Uwch Gynghrair Lloegr am ddau dymor. Treuliodd weddill ei yrfa yn y Swistir: ar fenthyg i Grasshopper Club Zürich (1997–9), a chyda FC Zürich (1999–2002), FC Luzern (2002–03), FC Sion (2003–04), FC Aarau (2004–05), a FC Basel (2005–06). Dychwelodd hefyd, eto ar fenthyg, i Alania Vladikavkaz am saith gornest yn 2004. Chwaraeodd i dîm cenedlaethol Georgia o 1991 i 2002.
Deng mlynedd wedi iddo ymddeol o chwarae pêl-droed, cafodd Kavelashvili ei ethol i senedd Georgia yn 2016, fel aelod o'r blaid boblyddol Breuddwyd Georgia. Yn 2022 cyd-sefydlodd Grym y Bobl, plaid ewrosgeptigaidd adain-dde gyda chysylltiadau clos â Breuddwyd Georgia. Mae Kavelashvili yn lladmerydd dros gysylltiadau cyfeillgar â Rwsia ac yn wrthynebydd i ddylanwad yr Undeb Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America yn Georgia. Kavelashvili oedd un o awduron y ddeddf ddadleuol i gofrestri sefydliadau sy'n derbyn dros 20% o'u cyllideb o wledydd eraill fel "asiantau dros fuddiannau grym tramor".
Ar 14 Rhagfyr 2024 cynhaliwyd pleidlais gan y senedd i ddewis arlywydd, a Kavelashvili oedd yr unig ymgeisydd. Fe'i cyhoeddwyd yn arlywydd nesaf y wlad, ac efe yw'r arlywydd cyntaf yn hanes Georgia i'w ddewis gan goleg etholiadol, ers i'r etholiad arlywyddol uniongyrchol gael ei gynnal am y tro olaf yn 2017. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa wleidyddol gyfoes yn Georgia yn hynod o fregus, ac mae'r Arlywydd Salome Zourabichvili yn gwrthod cyfreithlondeb yr etholiad.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Orestes Georgiou Daniel, "Who is Mikheil Kavelashvili, Georgia's new president?", Euronews (14 Rhagfyr 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Rhagfyr 2024.