Mimas (lloeren)
Mimas yw'r seithfed o loerennau Sadwrn a wyddys:
- Cylchdro: 185,520 km oddi wrth Sadwrn
- Tryfesur: 392 km
- Cynhwysedd: 3.80e19 kg
Enghraifft o'r canlynol | lleuad o'r blaned Sadwrn, lleuad arferol |
---|---|
Màs | 37.496 ±0.01 |
Dyddiad darganfod | 17 Medi 1789 |
Echreiddiad orbital | 0.0196 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Mimas yn un o'r Gigantes (Cewri) i gael ei ladd gan Ercwlff ym mytholeg Roeg.
Darganfuwyd y lloeren ym 1789 gan Herschel.
Mae dwysedd isel Mimas (1.17) yn dangos ei bod wedi ei chyfansoddi yn fwy na dim gan iâ dŵr gyda dim ond swm bach o graig.
Mae arwyneb Mimas yn cael ei oruchafu gan grater 130 km gyda'r enw Herschel. Mae uchder waliau Herschel tua 5 km, mae dyfnder rhannau o'i lawr yn 10 km, ac mae ei fan canolog yn codi 6 km uwchben llawr y crater. Byddai'r trawiad a achosodd y crater bron wedi dinistrio Mimas. Mae arwyneb Mimas yn llawn o graterau sy'n hanu o drawiadau llai.