Mishnah
Mae'r Mishnah (Hebraeg משנה, "ailadrodd") yn ffynhonnell bwysig i destunau crefyddol Iddewiaeth rabinaidd. Ceir ynddo yr enghraifft gynharaf ar glawr o ddeddfau llafar yr Iddewon, gwaith y Pharisiaid, ac fe'i ystyrir fel y gwaith cynharaf yn hanes llenyddiaeth Rabbinaidd.
Cafodd y Mishnah ei gyfansoddi yn ei ffurf bresennol tua'r flwyddyn O.C. 200 gan Judah haNasi ("Y Tywysog Judah"), a adnabyddir fel rheol fel Rebbi ("Rabbi"). Mae bron y cyfan o'r Mishnah wedi'i sgwennu yn Hebraeg Fishnaidd, ac eithrio ambell bennod yn Aramaeg. Recordiwyd yr esboniadau Rabbinaidd ar y Mishnah dros y tait canrif olynol yn Aramaeg yn bennaf, testunau a adnabyddir fel y Gemara. Gyda'i gilydd mae'r Mishnah a'r Gemara yn ffurfio'r Talmud.
Nodweddir y Mishnah yn y llenyddiaeth Rabbinaidd gan ei bortread o fydysawd crefyddol ac iddo ran ganolog i Deml Jerusalem, a gafodd ei dinistrio ganrif o flaen hynny. Mae deddfau ynglŷn â gwasanaeth y Deml yn ffurfio un o chwech rhaniad y Mishnah.
Nodweddiadol hefyd yw'r diffyg dyfynnu o ffynonellau ysgrythurol yn y Mishnah ar gyfer ei ddeddfau. Dywedir bod y Deddfau llafar yn cyfochrog i'r Deddfau Ysgrifenedig, sef y Torah, ac felly'n gydradd iddynt ac yn annibynnol ohonynt. Roedd yr ymgais i gysoni'r ddau system hwn o ddeddfau yn rhan bwysig o waith ysgrifenwyr diweddarach ar y Mishnah a'r Talmud.