Miss Catherine Jones o Golomendy, ger yr Wyddgrug

Paentiad gan Richard Wilson

Portread olew ar gynfas yw Miss Catherine Jones o Golomendy, ger yr Wyddgrug a baentiwyd yn y 1740au gan yr arlunydd o Gymro Richard Wilson (1714–1782). Mae'r peintiad yn y casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Creodd Wilson y gwaith cynnar yma yn fuan ar ôl cwblhau ei brentisiaeth chwe blynedd o dan y portreadydd Thomas Wright. Roedd Catherine Jones, yr eisteddwraig, yn gyfnither i’r artist ac yn berchennog Neuadd Colomendy, Llanferres, Sir Ddinbych. Mae'r gwaith hwn o ddiddordeb gan ei fod yn un o'r portreadau olaf iddo eu creu cyn iddo fynd i'r Eidal lle’r arallgyfeiriodd, gan ddod yn un o artistiaid tirlun mwyaf ei gyfnod.

Miss Catherine Jones o Golomendy, ger yr Wyddgrug
ArlunyddRichard Wilson
Blwyddyn1740au
Matholew ar gynfas
Maint70 cm × 57 cm ×  (28 in × 22 in)
PerchennogLlyfrgell Genedlaethol Cymru

Europeana 280 golygu

Yn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect "Gwaith Celf Europeana".[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Europeana; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gelf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.