Richard Wilson (arlunydd)
Arlunydd o Gymru oedd Richard Wilson (1 Awst 1714 – 15 Mai 1782).
Richard Wilson | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 1713, 1 Awst 1714 Penegoes |
Bu farw | 11 Mai 1782 Colomendy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd |
Adnabyddus am | Llyn-y-Cau, Cader Idris |
Prif ddylanwad | Claude Lorrain, Francesco Zuccarelli |
Tad | John Wilson |
Mam | Alice Wynne |
Cafodd ei eni yn rheithordy Penegoes, ger Machynlleth yn Sir Drefaldwyn. Roedd ei dad John Wilson yn rheithior yno ac wedi bod ym Mhrifysgol Rhydychen ac ef oedd yn ei ddysgu mae'n debyg. Roedd ei fam, Alice Wynne yn perthyn i nifer o deuluoedd bonheddig a chefnog yng Nghymru.
Aeth i Lundain yn llanc 16 oed at arlunydd o'r enw Thomas Wright i ddysgu sut i beintio portreadau dan nawdd Syr George Wynne, perchennog mwynglawdd ac yn perthyn i'w fam. Ymhen 6 blynedd sefydlodd ei fusnes ei hun yn peintio portreadau. Ar ôl ymweliad â'r Eidal (1749-1756), canolbwyntiodd ar dirluniau. Roedd yn arloeswr a fabwysiadodd arddull rhydd telynegol yn lle Clasuriaeth, gan baratoi'r ffordd i artistiaid diweddarach fel Gainsborough a Constable. Fe fu farw yng Ngholomendy, Sir Ddinbych.
Prif beintiadau
golygu-
Meleager ac Atalanta (1770). Tate Britain, Llundain
-
Llyn y Cau, Cadair Idris (tua 1774). Tate Britain, Llundain
- Castell Caernarfon
- Castell Dolbadarn
- Afon Penegoes
- Pont Dolgellau
- Glyn Mawddach gyda Cader Idris
- Castell Cilgerran
- Castell Ddinas Bran
- Miss Catherine Jones o Golomendy, ger yr Wyddgrug
Cyfeiriadau
golygu- Richard Wilson (1713-1782) yn y Bywgraffiadur Cymreig