Mitrovica
Mae Mitrovica (Albaneg: Mitrovicë, Serbeg: Kosovska Mitrovica, Косовска Митровица) yn ddinas yng ngwladwriaeth Cosofo ar lannau'r afonnydd Ibar a Sitnica. Hi yw dinas weinyddol Cyngor Dosbarth Mitrovica.
Mitrovica Mitrovica or Mitrovicë (Albanian) Косовска Митровица/Kosovska Mitrovica (Serbeg) | ||
---|---|---|
City and municipality | ||
Ibar Bridge, Sitnica river, Miners Monument, Ibar River, St. Dimitri Orthodox Church, Former Jadran Hotel, Sand's Mosque, Mitrovica at night panoramic view. | ||
| ||
Location of the city of Mitrovica within Kosovo | ||
Cyfesurynnau: Script error: The function "coordinsert" does not exist. | ||
Country | Kosovo[a] | |
District | District of Mitrovica | |
Llywodraeth | ||
• Mayor | Agim Bahtiri | |
• Mayor of North Mitrovica | Goran Rakić | |
Arwynebedd | ||
• Tir | 331 km2 (128 mi sg) | |
• Trefol | 15.983 km2 (6.171 mi sg) | |
Uchder | 500 m (1,600 tr) | |
Poblogaeth (2011)[1] | ||
• City and municipality | 84,235 | |
• Dinesig |
| |
• Metro |
| |
Parth amser | CET (UTC+1) | |
• Summer (DST) | CEST (UTC+2) | |
Postal code | 40000 | |
Cod ffôn | +383 28 | |
Car plates | 02 | |
Website | kk.rks-gov.net/mitrovice |
Yn dilyn Argyfwng Gogledd Cosofo yn 2013, sefydlwyd bwrdeisdref Gogledd Mitrovica ar gyfer y mwyafrif Serbeg sy'n byw yn rhan honno'r ddinas. Gan hynny, rhannwyd y ddinas yn ddwy uned weinyddol, ond ill dau o fewn fframwaith gyfreithiol Cosofo.
Yn ôl cyfrifiad 2011, poblogaeth Mitrovica oedd 84,235. Roedd 71,909 o'r rheini yn ochr ddeheuol (mwyafrifol Albaneg) y ddinas, ac yng nghyfrifiad 2011, 12,326 yn y gogledd[2].
Enw golygu
Daw enw'r ddinas o'r enw Groeg, Demetrius. Mae'n debyg y cafodd ei enwi ar ôl yr eglwys Fesantin o'r g8, St. Demetrius, a adeiladwyd ger caer Zvecan, ychydig uwchben Mitrovica fodern, yn anrhydedd Sant Demetrius o Thessaloniki. Gelwir y ddinas D(i)mitrovica nes iddo syrthio o dan y rheolaeth Otomanaidd.[3] Yn 1660, soniodd y teithiwr Otmanaidd, Evliya Çelebi,am y ddinas am y tro cyntaf gyda'r enw Mitrovica.[4][5]
Ar ôl marwolaeth yr Arlywydd Tito, roedd yn rhaid i bob un o'r rhannau cyfansoddol Iwgoslafia gael un lle wedi ei henwi gyda'r gair "Tito" ynoddo. O ganlyniad, ail-enwyd y ddinas yn Titova Mitrovica (Титова Митровица) yn Serbeg neu Mitrovica e Titos yn Albaneg, tan 1991.
Mae'r ddinas bellach yn cael ei alw'n Mitrovica neu Mitrovicë yn Albaniaeg a Kosovska Mitrovica (Косовска Митровица) yn yr iaith Serbeg.
Demograffeg golygu
Adnabyddir Mitrovica gan ei gwahaniaeth ethnig amlwg sy'n cael eiddominyddu gan Albaniaid ac yn Serbiaid. Ond ceir hefyd Bosniaks, Twrciaid, Romani a grwpiau ethnig eraill. Yn rhan ddeheuol y ddinas, mae'r Albaniaid yn cynrychioli 96.65% o'r holl boblogaeth gyda niferoedd bychain o Roma, Twrciaid, Bosniaks ac eraill. Yn ôl cyfrifiad 2011 dim ond 14 Serb sy'n byw ym mwrdeisdref ddeheuol Mitrovica.
Grŵp | Poblogaeth | Canran |
---|---|---|
Albaniaid | 69,497 | 96.65% |
Serbiaid Cosofo | 14 | 0.02% |
Twrciaid Cosofo | 518 | 0.72% |
Bosniakiaid Cosofo | 416 | 0.58% |
Roma | 528 | 0.73% |
Ashkali | 647 | 0.9% |
Eifftwyr Ashkali | 6 | 0.01% |
Gorani | 23 | 0.03% |
Eraill | 47 | 0.07% |
Ddim am ateb | 61 | 0.08% |
Not available | 152 | 0.21% |
Cyfanswm | 71,909 | 100% |
Gan na wnaeth Gogledd Mitrovica ymgymryd yn y cyfrifiad yn Ebrill 2011, cymerwyd y data oddi ar diweddariad 2008-2009 gan Asiantaeth Ystadegau Cosofo a dderbynir fel y data swyddogol gan lywodraeth y wlad. Ond mae gan wahanol sefydliadau amcangyfrifol eraill hefyd.
Yng Ngogledd Mitrovica, yn ôl diweddariad 2009, a wnaethpwyd gan Asiantaeth Ystadegau Cosofo, mae'r Serbiaid a grwpiau ethnig eraill yn gyfrifol am 92.97% neu 11,459 o'r trigolion tra bod 7.03% neu 867 yn Albaniaid.
Grŵp | Poblogaeth | Canran |
---|---|---|
Albaniaid | 867 | 7.03% |
Serbiaid a grwpiau eraill | 11,459 | 92.97% |
Cyfanswm | 12,326 | 100% |
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Kosovo Population Census 2011". Cyrchwyd 31 May 2017.
- ↑ "2011 Census: Mitrovica (demographics)". Kosovo Agency of Statistics/OSCE.
- ↑ name="KNBook">Grujić, Petar V. (2014). KOSOVO KNOT (yn Saesneg). Dorrance Publishing. t. 5. ISBN 9781480998452. Cyrchwyd 4 February 2018.
- ↑ name="HDKBook">Elsie, Robert (2010). Historical Dictionary of Kosovo (yn Saesneg). Scarecrow Press. t. 97. ISBN 9780810874831. Cyrchwyd 4 February 2018.
- ↑ name="KNBook"
- ↑ Population by ethnic /cultural background sex and municipality 2011[dolen marw] Data for South Mitrovica
- ↑ name="Estimation of Kosovo population 2011"
Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref>
yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>