Serbeg

iaith a siaredir yn Serbia a rhai gwledydd cyfagos ac amrywiad o'r Serbo-Croateg

Iaith a siaredir yn Serbia a rhai gwledydd cyfagos yw Serbeg. Mae'n iaith swyddogol yn Serbia, a cheir cryn nifer o siaradwyr mewn gwledydd fel Bosnia a Montenegro. Credir fod tua 12 miliwn yn siarad yr iath, 8 miliwn o'r rhain yn ei siarad fel mamiaith.

Serbeg
Enghraifft o'r canlynolamrywiolyn iaith, standard variety Edit this on Wikidata
MathEastern Herzegovinian Edit this on Wikidata
Enw brodorolсрпски језик Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 9,000,000
  • cod ISO 639-1sr Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2srp Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3srp Edit this on Wikidata
    GwladwriaethSerbia, Montenegro, Bosnia a Hertsegofina, Croatia, Cosofo, Gogledd Macedonia Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuSerbian Cyrillic alphabet, Gaj's Latin alphabet Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioBoard for Standardization of the Serbian Language Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Serbeg (2006)

    Mae Serbeg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafonig a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Croateg, Bosnieg a Montenegreg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel un iaith, ac mae llawer o ieithyddwr yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.

    Un wahaniaeth rhwng Serbeg a ieithoedd eraill y grŵp yw ei bod modd ei hysgrifennu gyda'r wyddor Gyrilig; mae'r mwyafrif o siaradwyr Serbeg yn deall ac yn defnyddio'r ddwy wyddor.

    Y ddwy wyddor golygu

    Mae trefn gwahanol i lythrennau'r wyddor, gan ddibynnu ar ba wyddor a ddefnyddir:

    Yr wyddor Gyrilig Serbeg, ćirilica (ћирилица) neu azbuka (азбука):

    • А Б В Г Д Ђ Е Ж З И Ј К Л Љ М Н Њ О П Р С Т Ћ У Ф Х Ц Ч Џ Ш

    Yr wyddor Ladin, latinica (латиница) neu abeceda (абецеда):

    • A B C Č Ć D Dž Đ E F G H I J K L Lj M N Nj O P R S Š T U V Z Ž

    Enghraifft o ddefnydd cyfochrog y ddwy wyddor yw'r Wikipedia Serbeg - dechreuodd y prosiect gan ddefnyddio'r wyddor gyrilig yn unig, ond erbyn hyn, mae meddalwedd yn galluogi dewis pa wyddor i'w ddefnyddio wrth ddarllen.

      Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
    Chwiliwch am serbeg
    yn Wiciadur.