Cerflunydd, cyhoeddwr, ac ymgyrchydd celf Palesteinaidd o Wlad Iorddonen oedd Mona Saudi (1 Hydref 194516 Chwefror 2022).[1]

Mona Saudi
Ganwyd1 Hydref 1945 Edit this on Wikidata
Amman Edit this on Wikidata
Bu farw16 Chwefror 2022 Edit this on Wikidata
Beirut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Iorddonen Iorddonen
Alma mater
  • École nationale supérieure des Beaux-Arts Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerflunydd Edit this on Wikidata

Bywyd a gyrfa golygu

Ganwyd Mona Saudi yn Amman, Gwlad Iorddonen.[2] Cafodd ei magu mewn cymdogaeth a oedd yn fetr i ffwrdd o'r Nymphaeum (baddonau cyhoeddus Rhufeinig hynafol). Dyma fu ei maes chwarae pan oedd hi'n blentyn. Roedd agosrwydd at safle hanesyddol yn rhoi parch mawr iddi at dreftadaeth gelf hynafol Iorddonen, yn ogystal â darparu ffynhonnell ysbrydoliaeth iddi ar gyfer ei cherfluniau.[3]

Fel person ifanc yn ei arddegau, yn tyfu i fyny yn Amman, roedd yn gwybod ei bod am symud i Beirut, sef canolfan y celfyddydau Arabaidd ar y pryd, a dod yn artist llawn amser. Pan oedd yn 17 oed, rhedodd i ffwrdd o gartref, gan gymryd tacsi i Beirut.[3] Mewn cyfweliad gyda phapur y Gulf News, eglurodd ei bod wedi gadael ei chartref heb ganiatâd ei thad oherwydd, yn ei theulu, roedd menywod yn cael eu gwahardd rhag mynd i'r brifysgol.[4]

Yn Beirut, cyfarfu ag artistiaid dylanwadol, beirdd a deallusion, gan gynnwys Adonis, Paul Guiragossian a Michel Basbous, a daeth yn rhan o'u cylch cymdeithasol.[4] Cynhaliodd ei harddangosfa gyntaf mewn caffi yn Beirut, ac o hyn cododd ddigon o arian i brynu tocyn i Baris.[4]

Cofrestrodd yn yr École nationale supérieure des Beaux-Arts ym Mharis , a graddiodd ym 1973.[5] Ym Mharis, syrthiodd mewn cariad â charreg fel cyfrwng ar gyfer ei cherflunwaith ac mae wedi bod yn ei ddefnyddio ers hynny.[4]

Gwaith golygu

Mae Saudi yn cerfio mewn cerrig yn bennaf. Mae'n defnyddio cerrig o bob cwr o'r byd i greu ei cherfluniau.[6] Y tu allan i'w gwlad enedigol, Saudi yw un o artistiaid enwocaf Gwlad Iorddonen. [7] Mae ei gwaith yn archwilio themâu twf a chreu.

Rhestr dethol o gerfluniau golygu

  • Mam / Ddaear, 1965
  • Yn ystod y Rhyfel: Tystiolaeth y plant , 1970
  • Twf, jâd o'r Iorddonen, c. 2002
  • Yr Hedyn, 2007

Arddangosfeydd unigol dethol golygu

  • Barddoniaeth a Ffurf, Amgueddfa Gelf Sharjah, 2018 [2]
  • Barddoniaeth mewn Cerrig, Emiradau Arabaidd Unedig, 2015
  • Oriel Gelf Al-Balkaa, Fuheis, Iorddonen, 1992
  • Oriel 50 x 70, Beirut, Libanus, 1992
  • Oriel Al-Salmieh, Dinas Kuwait, Kuwait, 1985
  • Oriel Gelf Alia, Amman, Iorddonen, 1983
  • Galerie Épreuve d'Artiste, Beirut, 1982
  • Galerie Elissar, Beirut, 1981
  • Galerie Contemporain, Beirut, 1975
  • Oriel One, Beirut, 1973
  • Galerie Vercamer, Paris, 1971

Arddangosfeydd grŵp dethol golygu

  • Grymoedd Newid: Artistiaid y Byd Arabaidd, 1994
  • Amgueddfa Genedlaethol Menywod yn y Celfyddydau, Washington, DC, 1994
  • Atelier Art Public, Paris, 1993
  • Celf Gyfoes yr Iorddonen Ontario, Canada, 1991
  • Celf Gyfoes Arabaidd, Paris, 1987
  • Celf Gyfoes Arabaidd, Llundain, 1983

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.palestineposterproject.org/special-collection/mona-saudi
  2. 2.0 2.1 Krishna Kumar, NP, "Mona Saudi’s Aesthetic Journey", Gulf News, 11 Gorffennaf 2018, Ar-lein:
  3. 3.0 3.1 Gronlund, M., "The Remarkable Career of Jordanian Artist, Mona Saudi," The National, 18 Mai 2018, Ar-lein:
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Kalsi, J., "Mona Saudi Creates Poetry in Stone," Gulff News, 24 Mehefin 2015 [1]
  5. "Mona Saudi". Arizona State University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-10. Cyrchwyd 19 May 2016.
  6. Volk, Katherine. "Poetry In Stone Mona Saudi". ArtAsiaPacific. Cyrchwyd 19 May 2016.
  7. Teller 2002, t. 425.

Llyfryddiaeth golygu

Dolen allanol golygu