Monastir
Mae Monastir (Arabeg: منستير , o'r gair Lladin monasterium, 'mynachlog') yn ddinas arfordirol yn Sahel Tiwnisia, a leolir ar benrhyn ar lan dde-ddywreiniol Gwlff Hammamet (20 km i'r dwyrain o Sousse a 162 km i'r de o'r brifddinas Tiwnis). Yn 2004, poblogaeth yr ardal ddinesig oedd 71,546 gyda 40,000 yn byw yn y ddinas ei hun.
![]() | |
![]() | |
Math | municipality of Tunisia, dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 104,535, 93,306 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Dushanbe, Münster, Saint-Étienne ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Monastir ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 35.8°N 10.8°E ![]() |
Cod post | 5000–5079 ![]() |
![]() | |

Yn ddinas hynafol a ddominyddir gan ei ribat (caer-fynachlog ganoloesol), mae economi Monastir heddiw yn dibynnu i raddau helaeth ar dwristiaeth. Maes awyr Monastir (Monastir Habib-Bourguiba), sy'n gwasanaethu Sousse yn ogystal, yw'r ail yn y wlad. Fe'i enwir ar ôl Habib Bourguiba, cyn brif weinidog y wlad, a aned yn y ddinas ac a gladdwyd yno mewn beddrod-fosg rhwysgfawr.