Arianyddiaeth

(Ailgyfeiriad o Monetariaeth)

Damcaniaeth economaidd sydd yn pwysleisio rôl y llywodraeth i reoli faint o arian sydd mewn cylchrediad yw arianyddiaeth.[1] Yn ôl yr arianyddwyr, gormodedd o arian yn yr economi sydd yn peri chwyddiant a chyflogau rhy uchel sydd yn peri diweithdra. Dadleuant taw gwahaniaethau yn y cyflenwad arian sydd yn cael effeithiau sylweddol ar allbwn yr economi genedlaethol dros gyfnod byr ac ar lefelau prisoedd yn y tymor hir. Maent felly'n argymell polisi ariannol ar gred yn y farchnad rydd sy'n ceisio sefydlogi prisoedd drwy reolaeth ariannol yn hytrach na pholisi dewisiol, hynny yw ar sail barnau newidiol y gwleidyddion a'r bancwyr.[2]

Arianyddiaeth
Enghraifft o'r canlynolcarfan meddwl, damcaniaeth Edit this on Wikidata

Cysylltir arianyddiaeth yn bennaf â gwaith Milton Friedman ac economegwyr neo-glasurol Chicago. Derbynasant ddysgeidiaeth economaidd John Maynard Keynes er iddynt yn ddiweddarach beirniadu damcaniaeth Keynes ar ormodedd a pholisi cyllidol, hynny yw gwariant gan y llywodraeth. Ysgrifennodd Friedman lyfr dylanwadol gydag Anna Schwartz, A Monetary History of the United States, 1867–1960, sydd yn honni bod "chwyddiant pob amser ac ymhobman yn ffenomen ariannol". Er iddo wrthwynebu bodolaeth y Gronfa Ffederal,[3] dadleuodd Friedman o blaid polisi gan y banc canolog i gydbwyso cyflenwad a galw yr arian, a hynny trwy ei fesur yn ôl twf cynhyrchiant a galw.

Cyfeiriadau golygu

  1.  arianyddiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Mehefin 2017.
  2. Phillip Cagan, 1987. "Monetarism", The New Palgrave: A Dictionary of Economics, v. 3, Reprinted in John Eatwell et al. (1989), Money: The New Palgrave, pp. 195–205, 492–97.
  3. Doherty, Brian (June 1995). "Best of Both Worlds". Reason. Cyrchwyd July 28, 2010.