Monifieth
Tref yn Angus, yr Alban, ydy Monifieth[1] (Gaeleg: Monadh Fotha).[2] Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 8,370.[3] Fe'i lleolir ar lan ogleddol Moryd Tay ar arfordir y dwyrain. Mae i bob pwrpas yn faestref dinas Dundee, y mae'n sefyll nesaf ati.
![]() | |
Math |
tref, small burgh ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
8,110 ![]() |
Gefeilldref/i |
Soyaux ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Angus, City of Dundee district, Angus, Monifieth ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
56.481°N 2.82°W ![]() |
Cod SYG |
S19000594 ![]() |
Cod OS |
NO496323 ![]() |
Cod post |
DD5 ![]() |
![]() | |
Hyd at y 19g roedd Monifieth yn bentref a oedd yn ddibynnol ar amaethyddiaeth a diwydiant ysgafn. Fodd bynnag, ar ddechrau'r ganrif sefydlodd James Low a Robert Fairweather ffowndri yno, ac ym 1815 dechreuon nhw gynhyrchu peiriant cardio ar gyfer llin. Gyda datblygiad y diwydiant tecstilau yn Dundee ac Angus tyfodd y busnes yn gyflym, ac, erbyn diwedd y 19g, roedd James F. Low & Co. yn cynhyrchu amrywiaeth helaeth o beiriannau a ddefnyddiwyd i brosesu a nyddu jiwt, llin a ffibrau eraill. Dechreuodd y cwmni ddenu archebion o bob cwr o'r byd, ac erbyn y 1880au roedd Ffowndri Monifieth yn cyflogi tua 300 o weithwyr. Rhwng 1861 a 1901, cynyddodd poblogaeth Monifieth o 558 i 2,134. Ym 1895 cofrestrwyd Monifieth yn Llys Siryf Forfar fel burgh (corfforaeth ddinesig).
CyfeiriadauGolygu
- ↑ British Place Names; adalwyd 26 Medi 2019
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 26 Medi 2019
- ↑ City Population; adalwyd 26 Medi 2019