Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr yw Moreton-in-Marsh.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Cotswold.

Moreton-in-Marsh
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Cotswold
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerloyw
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.988°N 1.701°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04004249 Edit this on Wikidata
Cod OSSP2032 Edit this on Wikidata
Cod postGL56 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 3,493.[2]

Tardda'r enw "Moreton" o "Farmstead on the Moor," ac mae "in Marsh" yn cyfeirio at leoliad y dref ar wastadedd clai corslyd. Mae'n gorwedd yn ardal y Cotswolds. Un filltir i'r dwyrain o Moreton ceir Carreg y Pedair Sir (Saesneg: Four Shires Stone) sy'n nodi'r hen ffin rhwng Swydd Gaerloyw, Swydd Warwick, Swydd Gaerwrangon a Swydd Rydychen.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Eglwys Dewi Sant
  • Neuadd y Farchnad

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 14 Mawrth 2020
  2. City Population; adalwyd 3 Gorffennaf 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaerloyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato