Morfydd E. Owen

Academydd o Gymraes a hanesydd y canol oesoedd

Academydd o Gymraes oedd y Dr Morfydd E. Owen (26 Ionawr 193617 Mawrth 2024).[1] Roedd yn arbenigwraig ar destunau cyfreithiol a meddygol yr Oesoedd Canol.[2]

Morfydd E. Owen
GanwydMorfydd Elizabeth Owen Edit this on Wikidata
26 Ionawr 1936 Edit this on Wikidata
Fochriw Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mawrth 2024 Edit this on Wikidata
Llanfarian Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhanesydd, academydd Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn unig ferch i Edward a Phyllis Owen,[3] ac fe'i magwyd yn Ivy Cottage ym mhentre’ Fochriw. Roedd teulu ei thad-cu, Mordecai Evans, yn hanu o fferm fynydd yn Nefynnog. Pan oedd Morfydd yn hŷn symudodd ei rhieni i fyw yn agos at Lyn Syfaddan yn Llan-gors.

Roedd yn un o dîm prosiect Beirdd y Tywysogion ac yn un o Gymrodyr Hŷn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Roedd yn un o sylfaenwyr Seminar Cyfraith Hywel yn y 1970au, a bu’n Ysgrifennydd i’r Seminar am 36 o flynyddoedd.[4]

Cyhoeddwyd y gyfrol ysgrifau Cyfarwydd Mewn Cyfraith er anrhydedd iddi, gan Gymdeithas Hanes Cyfraith Cymru yn 2017.

Bywyd personol

golygu

Priododd ei gŵr Howard Davies (5 Tachwedd 1924 – 27 Mehefin 2012)[5] yng Nghapel y Plough yn Aberhonddu. Roedd Howard yn feddyg a darlithydd ac roedd ganddo un ferch o'i briodas gyntaf, Melanie. Gyda'i gilydd cawsant ddau blentyn, Luned a Bríd.

Bu farw Morfydd yn 88 mlwydd oed. Cafwyd gwasanaeth angladdol cyhoeddus yn Eglwys Llanychaearn ger Llanfarian ar ddydd Mercher, 27 Mawrth 2024 am 2 y prynhawn.

Cafwyd teyrnged iddi gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd - "Diolchwn am ei chyfraniad sylweddol i ysgolheictod, a’i chyfeillgarwch a’i chefnogaeth ar hyd y blynyddoedd".

Cafwyd teyrnged hefyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn dweud "Meddai ar ysgolheictod disglair, a chyhoeddodd weithiau helaeth yn ymdrin â barddoniaeth llys a rhyddiaith ganoloesol Cymru".

Cyhoeddiadau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 19 March 2024.
  2. "Teyrngedau i Dr Morfydd E. Owen". Golwg360. 2024-03-19. Cyrchwyd 2024-03-19.
  3. "Click here to view the tribute page for Morfydd Elizabeth DAVIES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-24.
  4. Elias, Gwenno Angharad (2022). "DR MORFYDD E. OWEN - A THRADDODIADAU BRYCHEINIOG" (PDF). Cyrchwyd 2024-03-19.
  5. "Dr Howard Eaton Freeman Davies (1924- 2012)". British Geriatrics Society (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-19.