Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Canolfan ymchwil Cymreig a Cheltaidd yw Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, a leolir ar safle ger Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, Ceredigion. Mae'n rhan o Brifysgol Cymru. Mae'n "cynnal prosiectau cydweithredol ar iaith, llên a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill."[1] Un o brif amcanion y ganolfan yw cyhoeddi holl waith y beirdd Cymraeg canoloesol, yn cynnwys Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr. Agorwyd y ganolfan ar 28 Mai, 1993, gan yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos.[2] Cyfarwyddwr y ganolfan ers Hydref 2008 yw'r Athro Dafydd Johnston.[3] Penodwyd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn Gyfarwyddwr yn Ionawr 2021.[4] Mae Elin hefyd yn bennaeth ar Sefydliad Mercator sydd nawr hefyd wedi ei lleoli yn y Ganolfan.

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
PencadlysAberystwyth Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y ganolfan, gyda cherflun o Edward Llwyd o'i flaen

Cyhoeddiadau (detholiad) golygu

Dolen allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyflwyniad i'r Ganolfan
  2. Hanes y Ganolfan
  3. Staff y Ganolfan
  4. "Penodi'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd". Gwefan Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. 25 Ionawr 2021.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.