Morgan Dafydd
Emynydd Cymraeg o Sir Gaerfyrddin yn y 18g oedd Morgan Dafydd (bu farw yn 1762). Roedd ei frawd John Dafydd (1727 - 1783) yn emynydd o fri hefyd.
Morgan Dafydd | |
---|---|
Ganwyd | 18 g |
Galwedigaeth | llenor |
Fel ei frawd, crydd oedd Morgan Dafydd. Treuliodd ran gyntaf ei oes ym Medw-gleision, Caeo, lle roedd yn aelod o'r Eglwys Fedyddiol. Symudodd wedyn i fyw ym Melin Aberbranddu, Sir Gaerfyrddin.
Ceir naw o emynau Morgan Dafydd yn y gyfrol Aleluia (1747) gan William Williams Pantycelyn ac erys ei emyn 'Yr Iesu'n ddi-lai' yn boblogaidd heddiw.
Gweler hefyd
golygu