Crydd

gwaith a wneir gan grydd (trwsiwr esgidiau)

Crefft draddodiadol gwneud a thrwsio esgidiau yw cryddiaeth, a wneir gan y crydd (lluosog: cryddion).

Pac o gryddion yn Nhrawsfynydd tua 1885.

Clocsiau golygu

  • 'Clem' oedd y bedol haearn o tua chwarter cylch a hoelid dan flaen esgid gwadn lledr neu glocsen bren i'w amddiffyn rhag treulio. Cofiai Ieuan Roberts, yn y 1950au, fynd at y crydd yn Nhy Uchaf, Edern a holi am gael clem a phedol ar ei esgidiau hoelion mawr oedd yn eu gwisgo yn ddyddiol i fynd i'r ysgol gynradd[1].
  • Nododd Anet Tomos fod Llyfr Cownt ei hen daid John Thomas, Trwyn Garreg, crydd Llanengan, Gwynedd tua’r 1860au, yn dangos y wybodaeth ganlynol, sef rhestr o'r hyn roedd yn ei werthu a phwy oedd i gael y nwyddau. Er enghraifft:
Mae Evan Griffith, Bwlch yn talu:
2g am glem i Ann,
6c am glem a thop a chlwt i Janet”,
1s 2g am gwadnau a thopisis i Margaret”,
4c am dopis i Elinor”
a 4c am 2 glem i William mab Hugh.’[1]

Tybir o’r mynych gyfeiriadau at ‘gwadnu a thopeisio’ yn y llyfr cownt mai cydran o esgid yw topis. Mae’n amlwg bod Capt Witford yn Sais ac ar ei restr o mae’n dweud ‘soleing and heeling’. Felly tybed ai sawdl / sodlu ydy topis a topeisio..[2] Cadarnhaodd golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru mai’r tebygrwydd yw mai benthyciad o’r Saesneg 'top-piece' yw 'topis, sy'n dal yn fyw yn Saesneg: e.e. ar lle ceir:

Top Piece: The part of the heel that comes in contact with the ground. Made of a durable material that helps maintain friction with the ground.

Felly 'topeisio' yw 'gosod top-pieces', mae'n debyg.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Bwletin Llên Natur rhifyn 48
  2. Anet Tomos, cys. pers. Mawrth 2019
  3. Andrew Hawke, cys. pers. Mawrth 2019