Morning Has Broken

Emyn adnabyddus Gristnogol a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1931 ydy "Morning Has Broken". Ysgrifennwyd geiriau'r gân gan Saesnes Eleanor Farjeon a chaiff ei chanu yn aml i'r dôn Gaeleg yr Alban o'r enw "Bunessan". Cenir y gân yn aml mewn gwasanaethau i blant. Roedd y cerddor pop a gwerin Cat Stevens (a adwaenir fel Yusuf Islam ers 1978) wedi cynnwys fersiwn o'r gân ar ei albwm Teaser and the Firecat yn 1971. Cysylltir y gân gyda Stevens wedi iddi gyrraedd rhif 6 yn siart y Billboard Hot 100 yn yr Unol Daleithiau [1]

cyfeiriadau

golygu
  1. Whitburn, Joel (1996). The Billboard Book of Top 40 Hits, 6th Ed. (Billboard Publications).