Mortagne-sur-Gironde
Tref a chymuned yn département Charente-Maritime, rhanbarth Poitou-Charentes, gorllewin Ffrainc, yw Mortagne-sur-Gironde (enw canoloesol, Mortagne-sur-mer, weithiau Mortagne yn unig). Mae ganddi boblogaeth o 967 (1999).
Math | cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Moryd Gironde |
Poblogaeth | 913 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | canton of Cozes, Charente-Maritime, arrondissement of Saintes |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 18.87 km² |
Uwch y môr | 0 metr, 64 metr |
Yn ffinio gyda | Boutenac-Touvent, Brie-sous-Mortagne, Chenac-Saint-Seurin-d'Uzet, Virollet, Valeyrac, Floirac |
Cyfesurynnau | 45.4828°N 0.785°W |
Cod post | 17120 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Mortagne-sur-Gironde |
- Erthygl am y dref yn Charente-Maritime yw hon. Gweler hefyd Mortagne (gwahaniaethu).
Gorwedd y dref hanesyddol ar lan ddwyreiniol Moryd Gironde, ger Royan. Mae'n ganolfan twristiaeth gyda phorthladd a marina ar gyfer 200 o gychod. Ceir cychod pysgota yno hefyd. Mae gweddillion yr hen gastell yn gorwedd yn y dref uchaf, sydd wedi tyfu yn ei furiau ac o'i gwmpas.
Hanes
golyguCeir cell meudwy fonolithig wedi ei chloddio mewn clogwyn sy'n dyddio o'r 2ail ganrif OC. Fe'i cysylltir â Sant Martial. Ceir hefyd olion tybiedig fila fu'n perthyn i Sant Ausone a nifer o safleoedd eraill o'r cyfnod Rhufeinig.
Yn 1407 creuwyd tywysogaeth fechan Mortagne, a oroesodd hyd y flwyddyn 1789. Un o'i dywysogion enwocaf oedd Cardinal Richelieu. Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr, bu Owain Lawgoch yn gwarchae'r dref, oedd yn nwylo'r Saeson. Cafodd ei lofruddio yno gan asiant yn nhal brenin Lloegr. Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Mortagne yn 2003.
Bu farw Agrippa d'Aubigné ym Mortagne yn 1630. Dechreuwyd creu'r harbwr presennol yn y 18g. Bu'n borthladd prysur hyd at 1940.
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol
- (Ffrangeg) Swyddfa dwristiaeth Archifwyd 2010-01-25 yn y Peiriant Wayback