Achadh na Cranncha
Mae Achadh na Cranncha (Saesneg Mountnorris) yn bentref bychan a threfgordd yn Swydd Armagh, Gogledd Iwerddon. Saif tua chwe milltir i'r de o Cnoc an Mhargaidh (Markethill). Mae o fewn ardal llywodraeth leol Armagh, Banbridge a Craigavon. Roedd ganddo boblogaeth o 155 o bobl (79 o aelwydydd) yng Nghyfrifiad 2011. [1] (Cyfrifiad 2001: 165 o bobl)
Tafarn a gorsaf betrol | |
Math | pentref |
---|---|
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Iwerddon |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Cyfesurynnau | 54.2522°N 6.4746°W |
Cod post | BT60 |
Hanes
golyguMae'r enw Gwyddeleg, Achadh na Cranncha, yn golygu "cae'r lle coediog".[2] Ym 1600 adeiladodd yr Arglwydd Mountjoy gaer gwrthglawdd a gadael garsiwn o 400 o ddynion o dan orchymyn y Capten Edward Blaney yn Achadh na Cranncha. Bathwyd enw Saesneg yr ardal, Mountnorris, trwy gyfuno enwau Mountjoy a'i bennaeth wrth ryfela yn yr Iseldiroedd, Syr John Norris.
Erbyn 1620, nid oedd gan y pentref garsiwn mwyach ac yn y 18g pasiodd y gaer i ddwylo teulu Cope o Loch gCál (Loughgall), i ddod yn anheddiad cefn gwlad heb unrhyw gysylltiadau milwrol. Bwriadwyd adeiladu'r Ysgol Frenhinol yn y pentref yn wreiddiol ond oherwydd ansefydlogrwydd ar y pryd yn Ulster, cafodd yr ysgol ei hail-leoli i'w safle presennol yn Ard Mhacha (Armagh) ac fe'i hagorwyd ym 1608.
Yr Helyntion
golyguAr 31 Mai 1991, yn ystod "Yr Helyntion", cynhaliodd yr Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon (y PIRA) ymosodiad bom tryc mawr yn erbyn canolfan Y Fyddin Brydeinig ( Catrawd Amddiffyn Ulster) yn Glenanne gerllaw. Lladdodd dri milwr ac anafwyd deg arall. Mae'r cyrch yn cael ei adnabod yn gyffredinol fel "bomio barics Glenanne".
Pobl
golygu- Ganed Andrew Trew Wood (1826-1903), dyn busnes a seneddwr o Ganada, yn Achadh na Cranncha.
- Magwyd Billy Wright, arweinydd para milwrol teyrngarol, yn Achadh na Cranncha. Sefydlodd Llu'r Gwirfoddolwyr Teyrngarol (LVF) ym 1996 a llofruddiwyd ef ym 1997 gan Fyddin Rhyddhad Cenedlaethol Iwerddon (yr INLA).
Addysg
golygu- Ysgol Gynradd Mountnorris
- Ysgol Gynradd Sant Teresa
Oriel
golygu-
Prif Stryd Achadh na Cranncha
-
Eglwys Bresbyteraidd Achadh na Cranncha
-
Agosáu at y pentref
-
Neuadd yr Efengyl
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Mountnorris". Census 2011 Results. NI Statistics and Research Agency. Cyrchwyd 30 April 2015.
- ↑ "Achadh na Cranncha/Mountnorris". Logainm.ie (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2021-06-14.