Yr Helyntion
Cyfnod o wrthdaro ethno-wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon oedd yr Helyntion (Saesneg: The Troubles, Gwyddeleg: Na Trioblóidí) a barhaodd o ddiwedd y 1960au hyd Gytundeb Gwener y Groglith ym 1998, er bod ychydig o drais ers hynny. Tair carfan y gwrthdaro oedd lluoedd diogelwch y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon, gweriniaethwyr Gwyddelig (gan gynnwys yr IRA) a'r Unoliaethwyr (gan gynnwys yr UDF a'r UDA). Brwydrodd y gweriniaethwyr a'r Unoliaethwyr dros statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon, a cheisiodd lluoedd diogelwch y ddwy wladwriaeth dawelu'r ymladd (er bod cyhuddiadau bod rhywfaint o gymorth gan Weriniaeth Iwerddon i'r gweriniaethwyr, a chan y DU i'r Unoliaethwyr).
![]() | |
Enghraifft o: | sectarian violence, Gwrthdaro ethnig ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1998 ![]() |
Lladdwyd | 3,532 ![]() |
Dechreuwyd | 1960s ![]() |
Daeth i ben | 1998 ![]() |
Lleoliad | Gogledd Iwerddon ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/f/f6/Y_ddwy_wlad.png/220px-Y_ddwy_wlad.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/e/e9/Canran_protestaniaid.png/220px-Canran_protestaniaid.png)
Bu brwydro ar draws Gogledd Iwerddon, yn enwedig yn y brifddinas Belffast, rhwng y cymunedau Catholig, a oedd ar y cyfan yn cefnogi'r gweriniaethwyr, a'r cymunedau Protestannaidd, a oedd ar y cyfan yn gefnogol o'r Unoliaethwyr. Bu'r gwrthdaro hefyd yn ymledu i weddill y Deyrnas Unedig ac i Weriniaeth Iwerddon ar ffurf terfysgaeth.
Llyfryddiaeth
golygu- Michael Hughes, Ireland Divided - The Roots of the Modern Irish Problem. Gwasg Prifysgol Cymru, 1994.