Mr Ffiaidd

llyfr gan David Walliams

Mae Mr Ffiaidd yn llyfr ffuglen i blant. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol, Mr Stink (2009), gan David Walliams gyda darluniadau gan Quentin Blake.[1] Cyfieithwyd y llyfr i'r Gymraeg gan Gruffudd Antur a fe'i gyhoeddwyd gan Atebol yn 2016.[2] Hon yw ail nofel Walliams a'r drydedd i Antur drosi i'r Gymraeg ar ôl Cyfrinach Nana Crwca a Deintydd Dieflig.

Mr Ffiaidd
Math o gyfrwnggwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurDavid Walliams Edit this on Wikidata
CyhoeddwrHarperCollins Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi23 Rhagfyr 2012 Edit this on Wikidata

Mae'r llyfr yn dilyn Lois, y ferch fwyaf unig yn y byd. Un diwrnod mae'n cwrdd â Mr Ffiaidd, y tramp lleol, mae e mor ddrewllyd nes ei fod yn gwagio caffi o'i gwsmeriaid a'i staff o fewn ychydig eiliadau, ac mae'n rhaid i Lois anadlu drwy ei cheg pan mae yn ei gwmni. Ond, er ei fod yn drewi braidd, fu neb erioed mor garedig wrth Lois. Mae Lois yn unig, yn cael ei bwlio yn yr ysgol ac yn cael ei hanwybyddu gan ei mam uchelgeisiol, ac o ganlyniad mae caredigrwydd a chyngor Mr Ffiaidd yn ei denu ato. Felly, pan mae Mr Ffiaidd yn gofyn am rywle i aros, mae hi'n penderfynu cynnig lle iddo yn y sied yng ngwaelod yr ardd. Mae Lois yn dod i ddeall bod cadw cyfrinachau'n gallu arwain at drybini, ac mae'n dod yn amlwg fod gan Mr Ffiaidd ambell gyfrinach ei hun hefyd.[3]

Cyfeiriadau

golygu