Mrs Jones Llanrug

Mrs Jones Llanrug yw'r enw ar yr aelod nodweddiadol dychmygol o gynulleidfa Radio Cymru, S4C a chyfryngau torfol Cymraeg eraill.[1]

Mae'n debyg bod cynhyrchwyr rhaglenni BBC Cymru, yn y gorffennol, yn ystyried beth fyddai at ddant "Mrs Jones Llanrug", gwraig tŷ ganol oed o gadarnleoedd y Gymraeg,[2] wrth greu eu rhaglenni. Bellach, fodd bynnag, gall fod tinc dirmygus i'r enw;[3] â Mrs Jones Llanrug yn hen wraig erbyn hyn, nid dyma o reidrwydd yw cynulleidfa darged y cyfryngau torfol Cymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain, a gwelodd arlwy Radio Cymru ac S4C gryn symud oddi ar y rhaglenni traddodiadol hynny o gwmpas troad y ganrif.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Vaughan Roderick (15 Tachwedd 2011). Annwyl Mrs Jones. BBC. Adalwyd ar 31 Hydref 2014.
  2.  Beca Brown. Chwip Bentra. Barn. Adalwyd ar 31 Hydref 2014.
  3. Er enghraifft, gweler darlith Ian Rowlands parthed y theatr Gymraeg Archifwyd 2014-06-05 yn y Peiriant Wayback (30 Medi 2007): "Prysur farw mae Mrs Jones Llanrug a’i chyfoedion. Nid yw’r dyfodol yn eiddo iddynt hwy. Mae’r hen do yn haeddu ein parch ond yr ifanc piau’r dyfodol ac mae ganddyn nhw werthoedd gwahanol; disgwyliadau newydd o’i theatr." Adalwyd ar 31 Hydref 2014.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.