Mur Antoninus

(Ailgyfeiriad o Mur Antonaidd)

Mur o feini a thywyrch ar draws canolbarth yr Alban oedd Mur Antoninus. Adeiladwyd y mur gan yr Ymerodraeth Rufeinig yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Antoninus Pius, gan ddechrau yn 142 a gorffen y gwaith yn 144. Mae'n 60 km (37 milltir) o hyd, yn ymestyn o Old Kilpatrick i Bo'ness. Bwriadwyd y mur i gymeryd lle Mur Hadrian, 160 km (100 milltir) i'r de, fel ffin y dalaith Rufeinig.

Mur Antoninus
MathRoman limes, mur amddiffynnol, fortified line, safle archaeolegol Rhufeinig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAntoninus Pius Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 142 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolborders of the Roman Empire, Limes Britannicus Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau55.967°N 4.067°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Ugain mlynedd yn ddiweddarch, yn 164, tynnodd y Rhufeiniaid eu milwyr oddi ar y mur yma ac encilio i Fur Hadrian. Wedi cyfres o ymosodiadau yn 197, daeth yr ymerawdwr Septimius Severus i'r Alban yn 208, a thrwsiodd rannau o'r mur. Ychydig flynyddoedd wedyn, enciliodd y Rhufeiniaid eto, ac adfeiliodd y mur.

Ym mis Gorffennaf 2008 cafodd Mur Antoninus ei adnabod gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd.

Lleoliad Mur Antoninus a Mur Hadrian
Mur Antoninus, yn edrych tua'r dwyrain o Barr Hill, rhwng Twechar a Croy