Mae Mur Hadrian (Saesneg: Hadrian's Wall; Lladin: Vallum Hadriani) yn fur amddiffynnol a adeiladwyd gan yr Ymerodraeth Rufeinig yn yr hyn sy'n awr yn Lloegr. Am ran helaeth o'r cyfnod Rhufeinig ym Mhrydain, Mur Hadrian oedd ffin ogleddol y dalaith Rufeinig, er bod mur arall, Mur Antoninus, ymhellach i'r gogledd yn yr Alban.

Mur Hadrian
MathRoman limes, cordon, safle archaeolegol Rhufeinig, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlHadrian Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 122 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLimes Britannicus, borders of the Roman Empire Edit this on Wikidata
SirNorthumberland, Cumbria Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.0242°N 2.2925°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganEnglish Heritage Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Roedd y mur tua 80 milltir Rufeinig (117 km) o hyd, yn ymestyn o Segedunum yn Wallsend ar Afon Tyne yn y dwyrain i Foryd Solway yn y gorllewin. Mae'r mur i gyd yn Lloegr; mae tua 15 km i'r de o'r ffin gyda'r Alban yn y gorllewin, a 110 km o'r ffin yn y dwyrain. I'r dwyrain o Afon Irthing mae wedi ei hadeiladu o gerrig, 5 - 6 medr o uchder a 3 medr o drwch. I'r gorllewin o'r afon roedd y mur wedi ei adeiladu o dywyrch, 3.5 medr o uchder a 6 medr o drwch.

Adeiladwyd y mur yn dilyn ymweliad yr Ymerawdwr Rhufeinig Hadrian â Phrydain yn 122 OC. Credir i'r gwaith adeiladu gymeryd 8 mlynedd, gyda milwyr o bob un o'r tair lleng oedd ym Mhrydain ar y pryd yn cynorthwyo. Roedd y mur yn rhan o weithiau amddiffynnol ehangach a oedd yn cynnwys ffosydd cyfochrog.

Map yn dangos lleoliad Mur Hadrian.
Rhan o Fur Hadrian ger Greenhead.
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.