Mustafa Kemal Atatürk
Mustafa Kemal Atatürk (1881 – 10 Tachwedd 1938), neu Gazi Mustafa Kemal Pasha (hyd 24 Tachwedd 1934), oedd sylfaenydd Gweriniaeth Twrci a'i harlywydd cyntaf. Cafodd ei eni yn Salonika (gogledd Gwlad Groeg heddiw).
Mustafa Kemal Atatürk | |
---|---|
Ganwyd | Ali Rıza oğlu Mustafa 1881 Thessaloníci |
Bu farw | 10 Tachwedd 1938 Dolmabahçe Palace |
Man preswyl | Thessaloníci, Şahinbey |
Dinasyddiaeth | Twrci, yr Ymerodraeth Otomanaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog milwrol, gwladweinydd, llenor, chwyldroadwr, swyddog y fyddin |
Swydd | Arlywydd Twrci, Aelod o Uwch Gynulliad Cenedlaethol Twrci, Chairman of the Cabinet of the Executive Ministers of Turkey, Prif Weinidog Twrci |
Taldra | 174 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Republican People's Party |
Tad | Ali Rıza Efendi |
Mam | Zübeyde Hanım |
Priod | Latife Uşaki |
Plant | Sabiha Gökçen, Ülkü Adatepe, Abdurrahim Tuncak, Afet İnan, Zehra Aylin, Rukiye Erkin, Nebile İrdelp, Sığırtmaç Mustafa |
Gwobr/au | Urdd Alecsander, Medal of Independence, Liakat Medal, Gallipoli Star, Imtiyaz Medal, Y Groes Haearn, Military Merit Cross III. Class, Bronze Military Merit Medal, Silver Military Merit Medal, 1st Class Order of the Crown, Dosbarth 1af, Urdd y Medjidie, 2nd class, Order of the Medjidie, 5th class, Order of the Medjidie, Order of Osmanieh 2nd Class, Order of Osmanieh 3rd Class, Order of Osmanieh 4th Class, Iron Cross 2nd Class, Order of Osmanieh, Order of the Crown (Prussia), Military Merit Cross, Medal Teilyngdod Milwrol |
llofnod | |
Mustafa Kemal Atatürk | |
1af Arlywydd Twrci
| |
Cyfnod yn y swydd 29 Hydref 1923 – 10 Tachwedd 1938 | |
Olynydd | İsmet İnönü |
---|---|
Cyfnod yn y swydd 3 Mai 1920 – 24 Ionawr 1921 | |
Olynydd | Fevzi Çakmak |
Geni |
Gwnaeth Mustafa Kemal enw iddo'i hun fel swyddog milwrol llwyddiannus tra'n gwasanaethu ym myddin Twrci ym Mrwydr Gallipoli yn y Dardanelles, yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl i Ymerodraeth yr Otomaniaid golli yn y rhyfel hwnnw a'r cynlluniau gan y Cynghreiriaid buddugoliaethus i'w thorri i fyny, arweiniodd Atatürk y mudiad cenedlaethol Twrcaidd mewn ymdrech a droes yn Rhyfel Annibyniaeth Twrci. Ar ôl cyfres o gyrchoedd milwrol llwyddiannus llwyddodd i ryddhau'r wlad a sefydlu Gweriniaeth Twrci. Fel arlywydd cyntaf ei wlad, dechreuodd Atatürk ar gyfres o ddiwygiadau pellgyrhaeddol a cheisiodd greu gwladwriaeth seciwlar, fodern a democrataidd. Ymhlith ei ddiwygiadau oedd cael gwared o'r hen wyddor Arabaidd a chyflwyno un newydd seiliedig ar y wyddor Rufeinig a symleiddio gramadeg yr iaith Dwrceg ei hun.
Ar 24 Tachwedd, 1934, fel cydnabyddiaeth o'i ran hollbwysig yn sefydlu'r Twrci fodern, rhoddodd Cynulliad Cenedlaethol Twrci yr enw "Atatürk" iddo (sy'n golygu "Tad y Tyrciaid" neu "Hynafiad y Tyrciaid"). Pan fu farw bedair blynedd yn ddiweddarach codwyd beddrod ardderchog iddo ar bryn uchel yn y brifddinas newydd, Ankara. Mae'r beddrod yn ganolfan pererindod wlatgar ac yn symbol amlwg o'r Twrci fodern mewn cyferbyniaeth â'r gorffennol.