Myles Davies

dadleuydd crefyddol a llyfryddwr

Awdur Cymreig ar bynciau crefyddol oedd Myles Davies (16621715 neu 1716).[1] Ysgrifennai yn Lladin a Saesneg o safbwynt Protestanwr yn erbyn daliadau a dylanwad Pabyddiaeth.[2]

Myles Davies
Ganwyd1662 Edit this on Wikidata
Chwitffordd Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1715 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • y Coleg Seisnig Edit this on Wikidata
Galwedigaethllyfryddiaethwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Myles Davies ym mhlwyf Chwitffordd, Sir y Fflint, yn 1662. Cafodd ei hyfforddi i fod yn offeiriaid Catholig yng Ngholeg Seisnig yr Iesiwitiaid yn Rhufain ond droes yn Brotestant ar ôl dychwelyd i Gymru. Disgrifia ei droedigaeth yn ei lyfr The Recantation of Mr Pollett, a Roman Priest (1705). Ei brif waith yw'r Athenae Britannicae (1716), ar y ddadl rhwng Protestaniaeth a Phabyddiaeth, sy'n cynnwys ei ddrama Ladin Pallas Anglicana.[2]

Llyfryddiaeth ddethol golygu

  • The Recantation of Mr Pollett, a Roman Priest (1705)
  • Athenae Britannicae (6 chyfrol, 1716)
  • Pallas Anglicana. Drama Ladin.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Roberts, R. Julian (2004). "Davies, Myles (b. 1662, d. in or after 1719)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/7253.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  2. 2.0 2.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).