Chwitffordd
Pentref bychan, cymuned a phlwyf yn Sir y Fflint yw Chwitffordd ( ynganiad )(Saesneg: Whitford). Mae'n gorwedd tua 4 milltir i'r gorllewin o Dreffynnon a 2 filltir i'r de o Fostyn.
![]() Eglwys y Santes Fair a Beuno Sant yn Chwitffordd | |
Math |
pentref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir y Fflint ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.3°N 3.3°W ![]() |
Cod SYG |
W04000211 ![]() |
Cod OS |
SJ142782 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
![]() | |
- Am enghreiftiau eraill o'r ffurf Saesneg ar yr enw, gweler Whitford.
Daw'r enw Cymraeg o'r enw Saesneg Whitford (naill ai "Rhyd Lydan" neu "Rhyd Wen"). Cofnodir y ffurf Widford yn Llyfr Domesday (1086) ac ymddengys fod y pentref wedi ei sefydlu gan yr Eingl-Sacsoniaid pan fu'r rhan yma o Gymru ym meddiant teyrnas Mercia. Ond adenillwyd y tir gan y Cymry a chafwyd y Cymreigiad Chwitffordd. Cofnodir yr enghraifft gynharaf o'r ffurf Gymraeg mewn dogfen sy'n dyddio i 1284.[1]
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Rob Roberts (Ceidwadwyr).[2][3]
HanesGolygu
Ganwyd yr hynafiaethydd a naturiaethwr enwog Thomas Pennant ym mhlasdy Downing, ger y pentref, yn 1726. Ysgrifennodd Pennant gyfrol ar hanes a hynafiaethau Chwitffordd a'r cylch.
Pennant oedd un o'r awduron cyntaf i roi disgrifiad llawn o garreg Maen Achwyfan a'i groes Geltaidd gynnar, sy'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin o Chwitffordd, ar y ffordd i Drelogan. Mae'r garreg yn dyddio'n ôl i'r 11g.
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Bedwyr Lewis Jones, Yn ei Elfen (1992).
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd y Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog