Mynediad at gyfiawnder

Mae mynediad at gyfiawnder yn egwyddor sylfaenol mewn rheolaeth gyfreithiol sy’n disgrifio sut mae gan ddinasyddion fynediad cyfartal i systemau cyfreithiol.[1] Fel arfer, darperir gwasanaethau cyfreithiol i bobl a allai fel arall ei chael yn anodd cael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol. Heb fynediad at gyfiawnder, ni all pobl arfer eu hawliau’n llawn, herio gwahaniaethu, na dal pobl sy'n gwneud penderfyniadau'n atebol am eu gweithredoedd.[2]

Mynediad at gyfiawnder
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Mathmudiad cymdeithasol Edit this on Wikidata

Mae'r modd y mae cenhedloedd yn helpu eu dinasyddion i gael mynediad at gyfiawnder yn amrywio fesul cenedl. Gellir cynyddu mynediad at gyfiawnder trwy sefydliadau cymorth cyfreithiol wedi’u hariannu’n briodol ac wedi’u staffio’n briodol sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol am ddim i’r tlawd,[3] a thrwy raglenni pro bono y mae atwrneiod gwirfoddol yn darparu gwasanaethau a chynrychiolaeth drwyddynt,[4] neu drwy raglenni eraill sydd wedi’u cynllunio i helpu pobl. Mae mynediad at gyfiawnder yn gysyniad eang sy’n cynnwys rhwymedïau cyfreithiol yn y llysoedd a hefyd mewn sefydliadau cyfiawnder eraill.[5]

Y Mudiad dros Fynediad am Ddim i 'r Gyfraith golygu

Sefydlwyd Y Mudiad dros Fynediad am Ddim i 'r Gyfraith (Free Access to Law Movement (FALM)) ym 1992, gyda'r nod o ddarparu mynediad am ddim i wybodaeth ac adnoddau cyfreithiol sylfaenol. Yn 2002, mabwysiadodd FALM y Datganiad ar Fynediad Rhad ac Am Ddim i'r Gyfraith. Nod y mudiad yw sicrhau bod gwybodaeth gyfreithiol ar gael i bawb. Roedd y datganiad yn nodi fod gwybodaeth gyfreithiol gyhoeddus rhan o dreftadaeth y ddynoliaeth.

Roedd aelod-sefydliadau FALM, yn bennaf trwy'r Rhyngrwyd, yn ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth gyfreithiol sylfaenol ac eilaidd yn eang. Mae enghreifftiau cynnar yn cynnwys y Sefydliad Gwybodaeth Gyfreithiol yn Ysgol y Gyfraith, Cornell a Sefydliad Gwybodaeth Gyfreithiol Awstralasia, prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Technoleg Sydney a Phrifysgol De Cymru Newydd. [6][7]

Yn 2013, sefydlodd Ysgol y Gyfraith Cornell y Journal of Open Access to Law, i hyrwyddo ymchwil rhyngwladol ar bwnc mynediad agored i'r gyfraith. [8]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Rashid, Norul Mohamed. "Access to Justice". United Nations and the Rule of Law (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-21.
  2. "Access to Justice". United Nations and the Rule of Law. United Nations. Cyrchwyd 12 May 2019.
  3. "Resource Center for Access to Justice Initiatives". American Bar Association. Cyrchwyd 12 May 2019.
  4. "Pro Bono and Volunteer Programs". Center on Court Access to Justice for All. National Center for State Courts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-12. Cyrchwyd 12 May 2019.
  5. "Necessary Condition: Access to Justice". United States: Institute of Peace. Cyrchwyd 12 May 2019.
  6. Legal_Information_Institutes.htm
  7. "AustLII - Publications: AustLII - Libs Paper". austlii.edu.au. Cyrchwyd 26 December 2016.
  8. "Journal of Open Access to Law". cornell.edu. Cyrchwyd 26 December 2016.