Mynfer ach Brynach
Santes o'r 6g oedd Mynfer.
Mynfer ach Brynach | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Ganwyd Mynfer yng Nghymru, efallai ym Mynwar ger Arberth. Roedd hi yn ferch i Brynach a Cymorth ac yn chwaer i Mabyn, Mwynen (Morwenna) ac Endelyn (Endellion) a felly yn or-wyres i Brychan Brycheiniog. Aeth i Gernyw gyda'i theulu pan yn ifanc iawn.[1]
Mynfer a'r diafol
golyguDwedir fod y diafol wedi ceisio hudoli Mynfer tra roedd hi yn cribo ei gwallt wrth ymyl ffynnon. Taflodd Mynfer ei chrib ato a diflanodd y diafol i lawr twll a elwir "Lundy Hole"[1]
Cysegriadau
golyguRhoddodd Mynfer ei henw i bentref Sant Minver a cysegrwyd eglwys a ffynnon iddi yn Tredesick, ger Padstow.[1]
Gweler hefyd
golyguDylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"