Santesau Celtaidd 388-680

Prif ffynhonnell ysgrifenedig hanes santesau Celtaidd y cyfnod hwn yw Bucheddau'r Saint a ysgrifennwyd rhwng dau a phum canrif ar ôl eu marwolaethau. Fe'u hysgrifennwyd gan fynachod yn yr Oesoedd Canol.

Post Scriptum

golygu

Mae'r diffyg tystiolaeth gyfoes yn creu anawsterau wrth geisio deall eu hanes. Mae'r Bucheddau, ynghyd â llawer o'r deunydd a ysgrifennwyd yn ddiweddarach, yn adlewyrchu cyfnod eu hawduron yn hytrach na chyfnod Oes y Saint a chyfnod yr Eglwys Geltaidd. Addaswyd traddodiadau am y saint i bwysleisio anghenion eglwys neu fynachlog arbennig. Canlyniad y gor-ddweud gan y mynaich yw creu argraff o gymeriadau chwedlonol sy'n enwog yn bennaf am wneud gwyrthiau a darganfod ffynhonnau trwy ddulliau goruwchnaturiol. Pwysleisia S. Baring-Gould a J.Fisher na ddylai'r 'gwyrthiau' a ddatblygodd yn aml o ddigwyddiadau ym mywydau'r saint dynnu sylw oddi wrth dylanwad y bobl hynod hyn a'u llwyddiant yn lledaenu eu ffydd.[1]

Mae ystyr ambell air yn newid dros amser ac mewn gwahanol gyd-destunau. Dilynir y traddodiad o alw arweinyddion Cristnogol o'r cyfnod rhwng 388 a 680 yn "saint" tra yn cydnabod nad ydynt yn saint yn yr ystyr Catholig. Ni chysegrwyd hwy yn saint gan eglwysi esgobol. Os defnyddir y gair "sant" yn y dull anghydffurfiol, sy'n galw pob Cristion yn sant, nid y rhain oedd yr unig "saint"! Roedd y defnydd o eiriau fel "abad" neu "esgob" yn Oes y Saint yn golygu rhywbeth gwahanol i'w hystyr diweddarach pan oedd yr "eglwys" wedi sefydlu trefn hierarchaidd awdurdodol. Mae'r geiriau fel 'mynachdy' a 'lleiandy' yn cyfleu math arbennig o gymuned Cristnogol a sefydlwyd dan awdurdod Pabau Rhufeinig tra bu cymunedau Cristnogol yn wahanol yn Oes y Saint. Y gwahaniaeth mwyaf amlwg oedd eu hagwedd at rywioldeb, gan y buont yn byw mewn cymunedau cymysg ac yr oedd priodas yn gyffredin[2]. Buont hefyd yn wahanol yn eu hagwedd tuag at awdurdod. Nid oedd awdurdod canolog yn bodoli yn yr eglwys Geltaidd. Ni fyddent wedi gwahaniaethu rhwng Cristnogion lleyg ac aelodau o gymuned. Er mwyn osgoi camddealltwriaeth cyfeirir at gymunedau Cristnogol fel 'llannau' neu 'clasau' gydag 'arweinyddion' gan drafod eu dealltwriaeth o fywyd Cristnogol a'u dulliau o weithio yng nghyd-destun eu cyfnod.

Gwyryfdod a diweirdeb

golygu

Dylanwadodd rhagdybiaethau'r Eglwys Gatholig yn yr Oesoedd Canol yn drwm ar gofnodion y mynaich. Ni ddisgwylid i enethod dderbyn addysg, neu i wragedd bod mewn awdurdod. Cymerwyd yn ganiataol fod cymuned grefyddol naill ai'n fynachlog neu'n lleiandy, a bod y lleiandy yn dod o dan awdurdod y fynachlog, er gwaethaf y dystiolaeth o Oes y Seintiau fod cymunedau Cristnogol Celtaidd neu "llannau" yn cynnwys gwrywod a benywod.[3] Pan enwyd safle ar ôl dynes rhagdybiwyd ei bod yn gell meudwy, tra cymerid yn ganiataol fod y mwyafrif o lefydd a enwyd ar ôl dynion yn fynachdai (dynion yn unig). Pwysleisiwyd gwyryfdod fel rhinwedd, yn groes i arferiad yr Eglwys Geltaidd. Rhagdybiwyd fod dynes a gydnabyddir fel santes naill yn wyryf neu yn fam i fab enwog, gwell fyth os oedd hi hefyd yn ferthyr![4] Ychwanegwyd straeon am enethod ifanc yn dewis bywyd lleian ac yn cymryd llw o ddiweirdeb (Saesneg: chastity); ond nid oes sôn am santes yn cael ei threisio, dim ond yn cael ei hudoli. Cymerwyd yn ganiataol fod santes a laddwyd gan lwyth paganaidd wedi'i lladd oherwydd ei ffydd, gan anwybyddu rhesymau eraill am wrthdaro. Cafodd yr holl ragdybieithau hyn ddylanwad sylweddol ar bob peth a ysgrifennwyd yn ddiweddarach.

Achau'r Saint

golygu

Mae sawl dadl wedi codi dros y cysylltiadau teuluol a gofnodir yn y Bucheddau. I rai, dychymyg pur ydynt; honna eraill fod y mynaich wedi ceisio esbonio lleoliad daearyddol agos y llefydd a gysylltir â gwahanol saint drwy ddweud eu bod nhw'n perthyn. Mynn eraill mai perthynas ysbrydol yn unig oedd rhyngddynt er y gall 'plant yn y ffydd' fod yn berthnasau gwaed hefyd. Cystadlodd dwy gadeirlan Tŷ Ddewi a Llandaf, trwy'r Oesoedd Canol am yr hawl i fod yn gartref i Archesgobaeth Cymru[5].

Ailgysegrwyd rhai eglwysi i'r sant enwocaf, er mwyn ennill mantais i esgobaeth drwy hawlio awdurdod dros ardal benodol. Ychwanegwyd pwysigrwydd i sant lleol drwy or-bwysleisio eu perthynas â sant enwog neu i bennaeth llwyth. Mae'n annhebyg iawn fod y saint enwocaf â chysylltiad â phob eglwys sy'n dwyn eu henwau.[3] Wrth drafod hanesion y saint gwrywaidd mwyaf adnabyddus mae'r arferion hyn yn creu anawsterau, ond maent yn dylanwadu llawer llai ar hanes santesau. Wynebir yr union anawsterau wrth edrych ar achau'r saint ag sy'n codi wrth geisio olrhain achau teulu trwy wybodaeth a gesglir o atgofion gan wahanol aelodau'r teulu. Nid yw pob perthynas mor agos ag y cofnodir; yn aml mae wyres yn troi yn ferch a chyfnither yn chwaer, a chymysgir hanesion am ddau aelod o'r teulu sy'n dwyn yr un enw; ond mae elfennau cryf o gysondeb mewn cofnodion a ysgrifennwyd gan fynaich ymhell oddi wrth ei gilydd a buasai'n anodd iawn eu priodoli i ddychymyg neu gynllwyn. Sefydlwyd y Bucheddau nid yn unig ar hanes a drosglwyddwyd trwy draddodiad llafar ond hefyd ar lawysgrifau blaenorol, rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu yn agos at gyfnod y saint ond sydd bellach ar goll[1]. Pan nad ydynt yn cadarnhau rhagdybiaethau oes eu hawduron nac yn hybu dylanwad sefydliad, ac yn arbennig pan maent yn gwrth-ddweud rhagfarnau neu ymgais am ddylanwad, maent yn cynnwys gwybodaeth dibynadwy sydd yn cynnwys cnewyllyn pendant o wirionedd.

Catagoreiddio Seintiau

golygu

Dosbarthwyd y saint gan y mynaich (a bron pawb a ysgrifennwyd amdanynt yn diweddarach) yn yr un ffordd. Mae saint gwrywaidd naill yn esgobion, yn abadau, neu'n fynaich, tra bod y menywod naill ai'n wyryfon neu'n famau. Merthyr yw'r unig ddosbarth sy'n cynnwys gwragedd yn ogystal â dynion[4]. Dibrisir cyfraniad santesau fel arweinyddion neu athrawesau neu enghreifftiau o fywydau o ysbrydolrwydd arbennig gan yr arferiad hwn.

Modwen Whittington
Santes Non (5g) ar ffenestr liw yn Nhyddewi

Tystiolaeth anysgrifennedig

golygu

Yn ogystal a'r ysgrifennedig ceir ffynnonellau eraill o wybodaeth am y saint. Mae'r ychydig ffenestri lliw a cherfluniau sydd wedi goroesi o'r Oesoedd Canol yn dangos y santesau bron yn ddiethriad gyda llyfr yn eu llaw, ac weithiau maent hefyd yn dal ffon awdurdod abades. Mae hyn yn gadarnhad nid yn unig fod y santesau yn gallu darllen ac yn addysgu eraill ond hefyd eu bod hwy wedi arwain cymunedau. Mae santes sy'n dal cleddyf yn arwydd ei bod hi'n ferthyr. os tybid fod y santes yn perthyn i bennaeth (mân frenin) dangoswyd hi yn gwisgo coron. Yn diweddarach dangoswyd santes oedd yn arweinydd cymuned gydag eglwys fechan yn ei llaw.

Ffynnhonnell arall yw enwau trefi a phentrefi ar draws Cymru sy'n dangos ble roeddent yn byw ac yn gweithio. Ceir dros 500 o lefydd yng Nghymru â'r rhagddodiad "Llan" o flaen enw un o'r seintiau (mwy os ystyrir rhagddodiaid megis Tŷ ac Ynys) ac mae'r geiriau 'Capel', 'Bangor' a 'Betws' hefyd yn dynodi safleoedd Cristnogol.[6]

Dwbgys tystiolaeth archaeolegol llawer o'r mannau hyn iddynt gael eu defnyddio cyn y cyfnod Normanaidd. Astudiodd Emrys George Bowen yr enwau llefydd a'r dystiolaeth archaeolegol yn eu cyd-destun daearyddol a dangosodd fod sawl carfan o saint wedi bod yn weithgar mewn cyfnodau gwahanol, gyda phwysleisiau gwahanol, mewn ardaloedd penodol er fod rhain i gyd yn gor-gyffwrdd.[3] Nid dychymyg yr Oesoedd Canol sy'n cysylltu'r saint gyda'i gilydd na gyda'u hardaloedd penodol. Gallem fod yn weddol sicr fod llan sy'n dwyn enw un o'r saint llai adnabyddus, os oes olion archaeolegol hŷn na'r 12g ar y safle, wedi sefydlu naillai gan y sant a enwir neu gan un o'i ddisgyblion[3].

Dangosodd Bowen hefyd bod mwyafrif y llannau yn agos at boblogaeth y cyfnod ac ar y prif lwybrau teithio, sef hen ffyrdd Rhufeinig, a'r môr a'r hafnau ar hyd yr arfordir a oedd yn fannau cyswllt pwysig rhyngddynt[7]. Ni sefydlwyd hwy mewn llefydd anghysbell er fod llawer o'r safleodd yn ymddangos yn ddiarffordd heddiw.

Dylanwadau Oes Fictoria

golygu

Llwyddodd yr Eglwys Anglicanaidd i ddileu cydnabyddiaeth gyhoeddus o'r saint bron yn llwyr ar ôl y Diwygiad Mawr. Parhaodd y werin i weddïo i'r saint ac ymweld â ffynnhonau yn y dirgel. Datblygodd diddordeb newydd ynddynt yn Oes Fictoria ac ailadroddwyd hanesion o'r Bucheddau gydag ambell newid mewn pwyslais. Darluniwyd penaethiaid lleol fel brenhinoedd yr Oesoedd Canol a throwyd y santesau yn dywysogesau prydferth ond heb ddylanwad y tu allan i gylch cyfyng gŵr a phlant[8]. Yn gymaint ac y mae prydferthwch yn dibynnu ar iechyd, ac iechyd ar fwyd maethlon, gellid dadlau fod y santesau a ddaeth o haenen uchaf eu cymdeithas yn fwy tebyg o fod yn brydferth na gwragedd cyffredin eu cyfnod; ond mae'r pwyslais ar brydferthwch yn ychwanegiad Fictoraidd[8]. Dychrynwyd awduron y 19g wrth gofnodi fod genethod wedi derbyn yr union addysg a'u brodyr a methwyd a chredu fod gwragedd wedi arwain, wedi teithio ac wedi addysgu cymunedau cyfan. Mynegwyd syndod at ddiffyg cywilydd y saint ynglŷn â genedigaethau i rieni di-briod. Aeth ambell awdur Fictorianaidd[8] mor bell a honni fod camgymeriadau wedi digwydd yn yr hanesion cynharach a bod ambell santes yn ddyn mewn gwirionedd!

Ysbrydolrwydd Celtaidd cyfoes

golygu

Yn hanner olaf yr 20g datblygodd diddordeb newydd mewn ysbrydolrwydd Celtaidd. Mae tuedd mewn llawer o ddeunydd a ysgrifennwyd mewn canlyniad i geisio rhoi argraff o unffurfiaeth yn y gwledydd Celtaidd a'r rhannau o Loegr a ddaeth o dan ddylanwad eglwysi Celtaidd. Anaml iawn y trafodir gwahaniaethau, naill ai rhwng ardaloedd gwahanol neu rhwng cyfnodau gwahanol. Anghofir, gan fod llefydd yn ddiarffordd heddiw, nad oeddent yn ddiarffordd yng nghyfnod y saint. Ni ddewisodd saint fyw mewn lle unig. Ni ddewisent fyw mewn adeilad o bren a pridd, gyda thân o fawn, gan ddibynnu ar ddŵr o ffynnon a chynnyrch o'r tir na threfnu eu bywydau yng nghyd-destun y tywydd ar tymhorau. Hwn oedd y ffordd o fyw i bawb.

Ansicrwydd

golygu

Mae ansicrwydd ynglŷn â sawl agwedd o fywyd Oes y Seintiau gan fod cofnodion yn brin ond ni rhoddir 'efallai' neu 'mae'n debyg' o flaen pob gosodiad. Ni rhoddir 'tua' o flaen pob dyddiad, ond defnyddir dyddiadau yn weddol gyffredin gan adael i eraill drafod cywirdeb y dyddiadau hyn yn fanylach. Gellid dadlau'n ddiddiwedd dros gwestiynau fel y nifer o saint oedd yn dwyn enwau cyffredin megis Gwen, Cain a Marchell ac os yw amrywiaethau mewn enw yn cyfeirio at un santes neu at nifer. Nid oes modd bod yn gyfan gwbl sicr fod hanesion wedi eu priodoli i'r santes gywir.

Ymdrechion i diddymu y Santesau

golygu

O'r Oesoedd Canol ymlaen mae sawl ymdrech wedi gwneud i ceisio naill i dileu y santesau o hanes yn llwyr neu i darlunio hwy fel pobl ni wnaeth llawer o gwaith ymarferol. Yn yr Oesoedd Canol mae'n yn cael eu troi yn gwyryfon; dim ond yn enwog am beth na wnaethon nhw.[9] Ysgrifennodd lawer o'r Bucheddau y Seintiau yn y 12g a 13g pan roedd yr Eglwys Gatholig yn pwysleisio diweirdeb [5] ymlith offeiriaid, mynaich a lleianod: felly bu rhaid i santesau cael eu disgrifio fel gwyryfon er mwyn iddynt bod yn esiamplau da. Nid y gwirionedd oedd yn pwysig ond y delwedd. Nes ymlaen honnir maent ond yn cymeriadau chwedlonol; er ni ceisir gwneud yr un peth gyda'r saint gwrywaidd mwyaf adnabyddus. Atebodd y "problem" o fenywod gweithgar, yn enwedig yn Oes Fictoria, gan dweud mae rhaid fod mynaich y Canol Oesoedd wedi gwneud gangymeriad a rhaid eu bod yn dynion.[8] Mae eraill yn cymerid manylion am un sant gwrywaidd ac un neu ddwy santes ac ysgrifennu eu hanes fel petai hanes un person, sef y sant gwrywaidd. Hyd heddiw mae rhai yn cwestiwnu eu hanes, a'u bodolaeth, mewn modd nis gwneuthur gyda'r seintiau gwrywaidd

Dechreuadau

golygu

Cristnogaeth Rhufeinig

golygu

Daeth Cristnogaeth i Ynys Prydain gyda'r Rhufeiniaid yn gyntaf a dylanwadodd ar unigolion ar yr ynys mor gynnar â'r 1g. Daeth dwy santes o'r cyfnod o orllewin Prydain; sef Gwladus ac Eurgain, merched Caradog ac aethon nhw gydag ef mewn cadwynau i Rufain yn 51 O.C.[10]. Pan beidiodd yr Ymerodraeth ag erlid Cristnogion datblygodd yr Eglwys gyfundrefn debyg i drefn yr Ymerodraeth. Datblygodd Cristnogaeth fel crefydd trefol gydag awdurdod wedi ei ganoli ar esgobion. Trodd rhannau o Brydain at y ffydd, yn enwedig yn y de-ddwyrain ble roedd trwch y boblogaeth wedi mabwysiadu'r ffordd Rufeinig o fyw ond estynodd ei ddylanwad dros yr holl ardaloedd o dan reolaeth Rufeinig. Yn chwarter olaf y 4g dechreuodd y Rhufeiniaid dynnu eu lluoedd o Brydain i amddiffyn tiroedd mwy canolog yr Ymerodraeth. Erbyn 410 roedden nhw i gyd wedi ymadael. Nid arloesodd Cristnogaeth yn ne-ddwyrain Ynys Prydain heb rym canolig ac o dan gyfundrefn gwledig. Mabwysiadodd y brodorion dduwiau Llychlyn a daeth gyda goresgynwyr newydd yr un mor hawdd ac yr oeddent wedi mabwysiadu duwiau Rhufain ac wedyn Cristnogaeth.

Crud yr eglwys Celtaidd

golygu

Gwahanol iawn oedd datblygiadau yn ne-ddwyrain Cymru. Bu saint cynharaf y cyfnod yn Gristionogion Rhufeinig. Nid ymwahanodd yr "Eglwys Geltaidd" a'r "Eglwys Gatholig Rhufeinig" yn ffurfiol erioed ond datblygodd gwahaniaethau amlwg rhyngddynt. Daeth y prif ddylanwad newydd yn wreiddiol o'r Aifft. Glasdwreiddiwyd elfennau o'r ffydd pan ddaeth Cristnogaeth yn ffydd swyddogol yr Ymerodraeth. Dechreuodd Cristnogion selog ddewis byw ar wahan mewn cymunedau. Bu Martin o Tours ymhlith y rhai a fabwysiadodd y ddealltwriaeth hon o fywyd Cristnogol. Daeth y syniadau hyn i Gymru yn gyntaf pan ddychwelodd Elen, gweddw Macsen Wledig, yn 388. Roedd de-ddwyrain Cymru yn unigryw: bu'n "feithrinfa i'r Eglwys Geltaidd a chroth gweithgarwch a adfywiodd Ewrop"[5]. Parhaodd ôlion y ffydd Rhufeinig, gyda dylanwadau newydd o'r cyfandir o'i sefydlu yn ne-ddwyrain Cymru hyd nes y gelwid y 5g i'r 7g yng Nghymru yn 'Oes y Seintiau'. Mae yna ddadl cref dros rhoi'r flwyddyn 388 fel dechrau'r cyfnod hwn gan i'r dylanwadau newydd ddechrau y flwyddyn honno.

Santesau o'r cyfnod hwn oedd Elen Luyddog, Marchell o Dalgarth, Efrddyl o Erging,a Gwenonwy ach Meurig

Llannau

golygu

Datblygodd pentrefi neu gymunedau Cristnogol a elwid llannau. Bu cefnogaeth pennaeth lleol yn angenrheidiol wrth sefydlu llan a bu ei arweinyddion, y saint, bron yn ddieithriad yn blant neu berthnasau i'r pennaeth[3]. Ystyr gwreiddiol y gair "llan" oedd darn o dir wedi amgáu [cf. llannerch]. Y gwaith cyntaf, wrth sefydlu cymuned newydd, oedd gosod clawdd a pherth o gwmpas darn o dir. Bu'r llannau yn debyg iawn i bentrefi'r cyfnod o ran olwg, gyda nifer o gytiau o bren a phridd y tu mewn i'r clawdd. Adeiladwyd yr eglwysi yn gyntaf o bren a pridd fel gwedill y pentref. Nes ymlaen ailadeiladwyd mewn carreg ac yn raddol datblygodd y gair 'llan' yr ystyr 'eglwys' yn hytrach na thir amgaeëdig.

 
Ffenestr liw yn Llandogo, Sir Fynwy, yn cynnwys llun o Faches gyda ffon bugail.
 
Fenest wydr yn dangos y Santes Gwladys gyda buwch

Cymunedau Cristnogol bychain oeddent er iddynt ymdebygu i unrhyw bentref arall o safbwynt y bywyd beunyddiol cyffredin y cynhalient. Dibynnent ar amaeth am eu cynhaliaeth: y mae dysgu dulliau newydd o amaethu a iachau anifeiliaid yn destunau sy'n codi yn aml yn hanesion y saint[3]. Priodolwyd iddynt y gallu i gael gwared o ymlusgiaid neu bryfed oedd yn pla. Cyfeirir at nadroedd amlaf, ond ystyriwyd y sarff fel cynrychiolydd hen dduwiesau paganaidd yn ogystal ag arwydd o bechod. Mae'n debyg fod ystyr ysbrydol wedi ychwanegi i'r elfennau ymarferol yn yr hanesion hyn[11]. Ar wahan i eithriadau prin fel Llangwyryfon, trigai gwragedd a dynion gyda'i gilydd yn yr un llan gan briodi a chael plant; arferiad a barhaodd tan dyfodiad myneich Sistersiaidd o'r cyfandir ac mewn ambell le hyd at y goresgyniad Edwardaidd [12].

Sefydlwyd llannau yn yr ardaloedd poblog a daethant i fod yn gyfrwng i ledu Cristnogaeth yn eu bröydd. Ni wyddom yn union pam na sut y daeth y trigolion cyntaf i fyw mewn llannau. Arferai uchelwyr Rhufeinig Cristnogol gyflogi gweision Cristnogol a phrynu caethweision oedd eisoes yn Cristnogion. Efallai i'r saint a sefydlodd y llannau cyntaf chwilio am Gristnogion eraill i gwneud gorchwylion beunyddiol, neu gwahoddwyd Cristnogion o'r pentrefi cyfagos i symud i'r llan. Efallai y sefydlwyd rhai llannau pan aeth trigolion yr hen bentref yn rhy niferus gan symud un o blant y pennaeth oedd yn Gristion i safle newydd gyda Christnogion o'r hen bentref. Sefydlwyd ambell llan yn fwriadol ar hen safle paganaidd[13]. Sut bynnag y'i sefydlwyd, buasai'n haws i Gristnogion ymarfer eu ffydd ac addysgu Cristnogion newydd yn y llannau nag yng nghanol y diwilliant aml-grefyddol o'u hamgylch.

Addasu Arferion

golygu

Arferai Cristnogion ledled Ewrop roi ystyr Cristnogol i arferion ac arwyddion crefyddau brodorol wrth ceisio ennill y werin at y ffydd. Penodwyd y dyddiadau i ddathlu'r Nadolig, y Pasg a'r Sulgwyn trwy fabwysiadu dyddiadau gwŷliau crefyddau eraill. Defnyddiodd y saint elfennau o grefydd y Celtiaid i esbonio rhai agweddau o Gristnogaeth. Mae rhai arferion, megis addurno tŷ gyda chelynnen ac uchelwydd adeg y Nadolig, mor gyfarwydd nes prin fod neb yn sylweddoli eu bod yn arferion cyn-Gristnogol[14]. Bu gan y rhif tri ystyr arbennig i'r Celtiaid. Defnyddiwyd hwn i esbonio Duw sydd yn dri mewn un, a daeth y trisgell yn arwydd o'r Drindod Sanctaidd. Bu rhywfaint yn haws i esbonio ystyr aberth Iesu ar y groes i bobl oedd yn cyfarwydd a'r derwyddon yn cyflwyno aberth ddynol i'w duwiau ar adeg o argyfwng. Trodd Annwn y Celtaidd yn Nefoedd agos a'r gred fod drysau ar gael at fyd arall yn esbonio Ysbryd Glân holl bresennol.

Cysylltir y saint Celtaidd gyda ffynhonnau yn benodol. Bu ffynhonnau yn pwysig yn ymarferol.

 
Ffynnon y llan, Aberhonddu

Pan ddewiswyd safle ar gyfer llan bu'n rhaid dod o hyd i gyflenwad o ddŵr ac adlewyrchir yr angen hwn gan hanesion am sant yn darganfod ffynnon (yn wyrthiol) cyn sefydlu llan. Bu gan ffynhonnau arwyddocâd ysbrydol hefyd. Credai'r Celtiaid fod eu duwiau yn agos ble bynnag fo dŵr, boed afonydd, llynnoedd neu ffynhonnau. Nid oedd y gred hon yn gyfyngedig i'r Celtiaid; y mae gan ddŵr arwyddocâd mewn Iddewiaeth a Christnogaeth hefyd. Yn llyfr Genesis rhoddir pwyslais i gyfarfodydd arbennig trwy eu lleoli wrth ymyl ffynhonnau,[15]. Gwelir Iesu yn cwrdd â gwraig ger ffynnon[16] a chyfeiriad Iesu at ei hun fel "dwr bywiol". Buasai'r Celtiaid wedi deall arwyddocâd dŵr yn yr hanesion hyn a buasent wedi mabwysiadu bedydd fel arwydd o ddechreuad newydd fel Cristion yn hawdd. Arferai Celtaidd cyn-Gristnogol offrymu pethau gwerthfawr i'w duwiau trwy eu rhoi mewn dŵr; mae ebyrth o aur efydd a haearn wedi goroesi. Dilynodd yr arferiad hwn gan y werin wrth gweddio i'r saint wrth ffynhonnau gan adael pinnau bach, darnau o ruban a man pethau tebyg fel offrymau ac mewn rhai lefydd parhaodd yr arferiad tan diwedd yr 18g.[5]

Dylanwad Morgan

golygu

Un o'r dylanwadau mawr ar Gristnogaeth ar ddechrau y pumed canrif oedd athrawiaeth Morgan(neu Pelagius). Ganwyd Morgan yng ngogledd-ddwyrain Cymru tua 350 ac erbyn degawd olaf y pedwaredd canrif bu yn dysgu yn Rhufain.[5] Pwysleisiodd Morgan gwerth yr unigolyn; bu yn amau athrawiaeth yr eglwys Rhufeinig ar bechod gwreiddiol a'r dysgeidiaeth mai dim ond trwy yr eglwys oedd modd derbyn maddeuant a gras; a dysgodd fod prif ffynhonnell iachawdwriaeth oedd ymdrechion yr unigolyn i fyw yn unol â ewyllys Duw. Bu ei dysgeidiaeth yn bygythiad mawr i'r Eglwys Catholig a dibynnodd ar athrawiaeth ar faddeuant am gryfder ei dylanwad.[5] Dadleuodd un o'i prif gwrthwynebwyr, Awstin o Hippo (354-430) "Salus extra ecclusiam non est" (Nid oes iachawdwriaeth tu allan o'r eglwys.) Condemniwyd dysgeidiaeth Morgan, a elwid yr 'Heresi Pelagiaid' fel cau athrawiaeth, ond bu yn dylanwadol cryf ymhlith Cristnogion Celtaidd hyd at canol y 6g.

Nodweddion Cristnogaeth y 5ed Canrif

golygu

Datblygodd Cristnogaeth y 5g yng Nghymru rhai elfennau amlwg. Daeth areinyddion yr eglwys o'r teuluoedd penaethiaid y cyfnod; ni penodwyd hwy gan awdurdod allanol. Nid oedd lle amlwg i offeiriaid; nid oes sôn am ordeinio neu offeiriadaeth yn hanesion y saint. Dychwelodd arweinyddiaeth gan gwragedd (oedd wedi bodoli yn y canrif cyntaf cyn cael ei gyfyngu yn raddol) i'r elwys.[17] Cludodd saint benywaidd (yn ogystal â rhai gwrywaidd) allor symudol pan yn teithio; arwydd fod bobl o'r ddau ryw yn arwain oedfaon ac yn gweinyddu'r cymun. Daeth gwyryfdod yn gynyddol bwysig, yn arbennig ar gyfer menywod, yn ystod y cyfnod pan bu Cristnogaeth yn crefydd swyddolog yr Ymerodraeth,gan etifeddodd yr eglwys eiddo y gwyryfon hyn.[17] Diflannodd y pwyslais ar wyryfdod yn llwyr yn yr eglwys Celtaidd. Priododd mwyafrif y saint Celtaidd a chawsant plant.

Wrth i Gristnogaeth ymsefydlu fel prif ffydd Cymru datblygodd drefn o rhannu arweinyddiaeth llwythau rhwng y pennaethiad ac arweinyddion y llannau. Cyn y cyfnod Rhufeinig bu dau prif awdurdod mewn llwyth; bu'r pennaeth yn awdurdod dros bywyd bob dydd a bu'r derwyddon, oedd yn byw mewn cymuned ar wahân yn cyfrifol am agweddau ysbrydol bywyd ac addysg. Dinistriodd y Rhufeiniaid grym y derwyddon.[18] Ailsefydlwyd drefn o ganolfannau bywyd gwleidyddol a bywyd ysbrydol ar wahân yn Oes y Saint a daeth y llan i lenwi bwlch a addawodd gan y derwyddon. Esgorodd y priodas rhwng drefniant cynhenid Brythonig ar syniad newydd o gymuned Cristnogol ar y llannau oedd yn unigryw i Cristnogaeth Celtaidd; er ni welir hwn yn eglur tan y chweched a'r seithfed canrif. Gelid gweld canlyniad y trefn hwn wrth edrych at safleodd Eglwysi Cadeiriol yng Nghymru.; Bangor nid nepell o Abergwyngregyn ac Aberffraw, Llanelwy, ychydig pellter o Rhuddlan, Tŷ Ddewi, prif canolfan Cristnogol Deheubarth a Llandaf oedd yn pwysig ymhell cyn daeth Caerdydd yn brifdinas. ( Yn Lloegr adeiladwyd Eglwysi Cadeiriol ynghanol dinasoedd o bwys)

Adnabu'r saint gynnar am eu caredigrwydd, eu cymwynasgarwch a'u haelioni. Bu pwyslais ar rhannu adnoddau a gwybodaeth. Addysgodd plant ac oedolion yn y llannau. Defnyddiwyd saint benywaidd y wybodaeth o meddyginiaeth llyseiol oedd yn rhan o addysg gwragedd o dras bonedd er mwyn iacháu nid yn unig trigolion y llannau ond unrhyw un a oedd angen cymorth. Bu y saint yn dysgu dulliau newydd o amaethu i'r werin ac yn cydweithio gyda hwy yn eu gwaith beunyddiol.[3] Cyflwynodd eu ffydd trwy y gweithredodd hyn. Mae teyrngarwch y gwerin i'w sant leol am genedlaethau wedyn, yn arwydd o'r argraff a gwnaethpwyd.

Brychan

golygu
Prif: Brychan

Yn ystod y pedwaredd ganrif mewnfudodd sawl llwyth o Llychlyn; Ysgotiaid, Gwyddelod a Pictiaid; i ogeldd a orllewin Ynys Prydain. Meddianwyd yr ardal o gwmpas Aberhonddu gan lwyth o Bictaidd.[9] Yn y llwyth hwn roedd yn arferol i dir cael hetifeddu trwy linach benywaidd. Cyfeiriodd Bede at barhad yr arferiad hwn yn 731.[5]

Brychan a'i blant

golygu

Pennaeth Llanfaes ger Aberhonddu tua'r diwedd y cyfnod Rhufeinig oedd Tewdrig, a elwid Tewdrig Fendigaidd. Perthynai i un o'r llwythau Pictaidd a felly ei brif etifedd oedd ei ferch Marchell ac nid ei fab,Meurig.[9] Disgynyddion Tewdrig oedd mwyafrif y saint a lledodd Cristnogaeth o Frycheiniog i weddill De Cymru yn y 5g. Unig plentyn Marchell oedd Brychan a rhoddodd ei henw i Frycheiniog. Ar ôl traddodiad cafodd Brychan nifer fawr o blant, dros 60 ar ôl un ffynhonnell; 24 o ferched a 24 o feibion yn ôl y chwedlau. Bu gan Brychan tair wraig, Eurbrwst, Anbrwst a Ffarwistli ac esgorodd sawl dynes arall ar ei blant.[19] Ganwyd ei mab hynaf, Cynog, plentyn Banadlwen ach Benadl o Bowys, pan oedd Brychan yn llanc, a credir fod Brychan wedi byw am dros 80 mlynedd; felly buasai'n bosibl iddo bod yn dad i gynifer. Cafodd pennaethiad eraill tua'r un cyfnod teuloedd mawr. Buasai plant ieuangaf Brychan wedi cyfoesi gyda'i wyresau a'i wyrion hynaf a'u plant nhw. Cyfeirir at sawl ddwy o ferched Brychan fel chwiorydd sy'n dynodi efallai fod ganddynt yr un fam yn ogystâl â'r un tad.[9] Cred rhai nid oedd plant Brychan i gyd yn chwiorydd a frodyr. Maent yn dadlau ei bod yn aelodau o'r un tylwyth yn unig, ond nid oes amheuaeth eu bod hwy i gyd yn perthyn i'r un llwyth; a bu'r merched yn etifeddu tir ac eiddo yn ddiamod.[9]

Tystiolaeth y 'Cognatio de Brychan'

golygu

Rhoddir gwell syniad o niferoedd plant Brychan gan hen dogfennau sy'n rhestri eu henwau. Mae nifer y ferched yn aros yn gyson o gwmpas pedwar ar hugain tra mae nifer y meibion yn cynyddu dros y canrifoedd. Enwir 11 mab a 24 neu 25 merch mewn wahanol copïau o'r rhestr cynharaf, mewn llawysgrif a elwir y 'Cognatio de Brychan' dogfen o'r 11g (a sylfaenwyd ar ddogfennau cynharach sydd bellach ar goll.) [3] Cyfeiriodd Gerallt Gymro at y traddodiad o 24 o ferched Brychan yn 1188. Perodd meddylfyd yr Eglwys Rhufeinig yn yr Oesoedd Canol i troi y gwragedd hyn i gyd yn wyryfon, er gwyddom fod y mwyafrif ohonynt wedi priodi a chael plant.[9] Erbyn y 18g yr oedd nifer y meibion wedi cynyddu i 32; gyda'r cynnydd mwyaf yn digwydd yng nghyfnod y Tuduriaid pan ceisiodd uchelwyr ychwanegu at eu statws trwy ôlrhain eu achau i bennaeth cynnar. Yr arferiad hwn, a oedd yn rhoi pwyslais ar y linach gwrywaidd, oedd yn bennaf cyfrifol am y twf yn nifer y meibion ond mae'r tystiolaeth fod gan Brychan 24 o ferched yn cyson. Gelwir santesau eraill yn ferched Brychan ond pan edrychir yn fanwl at eu hanesion gwelir eu bod i gyd yn wyresau neu gor-wyresau.[20] Yn ôl y 'Cognatio' Arianwen, Rhiangar, Gwladus, Gwawr, Gwrgon, Nefydd, Lluan, Marchell, Meleri, Nefyn, Tutglud, Belyau, Ceinwen, Cynheiddon, Ceindrych, Clydai, Dwynwen, Eiluned, Goleuddydd, Gwen, Ilud, Tybie, Tudful a Tangwystl oedd y 24 merch Brychan. O hyn ymlaen cyfeirir at y 24 hyn yn unig, fel merched Brychan.[9] Maae gan y mwyafrif o ferched Brychan ei thudalen eu hun ar wicipedia. Dyma rhai ein bod ni'n gwybod y lleiaf amdanynt:

  • Arianwen: Priododd Iorwerth Hirfawd
  • Clydai: Cysylltir hi a Clydai, ger Penfro, (gelwir hi, mewn llawysgrifau diweddarach yn Clodfaith)
  • Gwawr: (a elwir weithiau Gwawrdydd). Bu Capel Gwawrdydd ym Mhenfro. Priododd Elidyr Lydanwyn a bu yn fam i Llywarch Hen a Gwalchmai.
  • Goleudydd: (a elwir weithiau Golau) Sefydlodd Llanhesgyn, Morgannwg
  • Gwrgon: Priododd Cadrod Calchfynydd.
  • Marchell (wedi enwi ar ôl ei mamgu). Priododd Cynyr o Gaer Gawch a bu yn fam i Banadlwen.
  • Nefydd: Sefydlodd Llanefydd. Priododd Tudwal Befr
  • Tybie: Sefydlodd Llandybie yng Nghaerfyrddin. Mae ffynnon ganddi mewn cae gerllaw a elwid Cell Tybie. Dathlwyd ei gŵyl yn y pentref tan y 18g.

Addysg

golygu

Fe magwyd Brychan ac wedyn ei ferched a'i feibion yn Cristnogion. Cawsant yr addysg gorau oedd ar gael yn y cyfnod; ymhlith eu athrawon oedd Garmon o Auxerre a'i disgybl Peulin ,[9]. Athro arall iddynt oedd Cystennin (Gastyn) mab Elen, felly y buasent yn cyfarwydd â'r syniadau newydd am Gristnogaeth a daethpwyd gydag Elen a'i theulu o'r cyfandir. Wrth ystyried cyfraniad Gastyn yn addysgu saint y cenhedlaeth nesaf mae'n syndod ni talir mwy o sylw i Langastyn fel rhagflaenydd Llanilltud Ni bu unrhyw wahaniaeth rhwng yr addysg a rhoddwyd i'r genethod a'r addysg a rhoddwyd i'r bechgyn;[8] faith a dychrynodd haneswyr Fictoraidd.[21]

Arferion Brycheiniog

golygu

Mewn nifer o hanesion o ddynion oedd yn dymuno priodi un o ferched Brychan; mae straeon am rhai o'r dynion yn fodlon ei cipio neu eu treisio i cael eu ffordd. Rhaid bod merched Brychan wedi cael eu hystyried yn priodferched gwerthfawr gan lwythau cyfagos oherwydd eu bod yn etifeddu tiroedd.[9] Bu cred a parodd am ganrifoedd mewn nifer o lefydd fod y cyntaf o gwpl oedd newydd priodi yfed o ddwr ffynnon wedi cysegru i un o'r merched hyn buasai 'n rheoli eu cartref newydd. Bu gan y gwragedd hyn hawliau nid oedd dynion o lwythau eraill yn eu deall. Gwynebodd nifer o'u disgynyddion benywaidd trais pan gwrthodasant priodi dynion o lwythau eraill. Lladdwyd rhai o ferched Brychan gan ei gelynion: bron yn dieithriaid dwedir fod eu pennau wedi torri i ffwrdd; dull arferol o gosbi arweinyddion llwythau a collodd brwydr ac yn gyfeiriad symbolaidd o gymryd eu hawl i llywodraethu oddi arnynt. Yn raddol newidiodd yr arfer o drosglwyddo eiddo i ferched i'r arferiad y llwythau o'i amgylch a trosglwyddodd mamau eu tir i'w meibion ond parodd rhai hawliau eraill megis yn hawl i dewis eu gwyr ei hun. Trosglwyddwyd nifer o hawliau a traddodiadau Brycheiniog i gyfreithiau Hywel Dda. Cyfraith Hywel lledodd y syniadau hyn am hawliau gwragedd i wedill Cymru. Cafodd menywod yng Nghymru eu trin yn fwy cyfartal â dynion na'i chwiorydd ledled Ewrop tan y 19g.[18]

Santesau De a De-orllewin Cymru

golygu

Sefydlodd Cristnogaeth fel prif ffydd Brycheiniog erbyn diwedd y pumed canrif a lledodd dylanwad Cristnogaeth trwy'r ardaloedd cyfagos trwy priodasau merched Brychan. Symudasant i Geredigion, Môn a Phowys ac mor bell â Rheged (Ardal y Llynnoedd) ond aethant yn bennaf i dde a dde-orllewin Cymru. Magwyd eu plant fel Cristnogion ac erbyn y chweched canrif bu mwyafrif o benaithiaid de Cymru yn Cristnogion. Dangosodd Emrys George Bowen fod gweithgaredd wedi digwydd mewn ddau prif ardal yn ystod hanner cyntaf y chweched canrif; yn y de ac yn y de-orllewin.[3] Cysylltir gweithgaredd Cristnogol y de gydag addysg a gweithgaredd y de-orllewin gyda byw yn llwm a gwaith gorfforol caled. Gellid gor bwysleisio y rhaniad yma; pwysleisiwyd ambell sant o'r de hunan-wadiad a bu addysg yn pwysig yn y ddwy ardal.

Santesau a chysylltir â'r ardal hon yw Cain, Cynheiddon, Gwladys Ilud a Tudful, merched Brychan a Banadlwen, Callwen a Gwenfyl, Cenhedlon, Cymorth, Elliw, Gwenhaf, Lleucu, Llŷr Forwen a Maches sydd i gyd gyda eu tudalennau eu hunain ar wikipedia.

Santesau o'r ardal nid ydym yn gwybod llawer amdanynt yw:

  • Bethan wyres neu or-wyres Brychan. Aeth hi i Ynys Manaw gyda'i brodyr Arthen a Cynon.
  • Edi Talfyriad o'r enw Edith yw Edi a bu sawl santes yn rhannu yr enw. Sefydlodd un ohonynt Llanedi ger Caerfyrddin.
  • Enfail wyres neu or-wyres Brychan. Lladdwyd ger Merthyr Enfail, Caerfyrddin.
  • Gwendolen Santes o'r 6g oedd yn byw yn y dde-orllewin. Bu yn fam i Myrddin Emrys.
  • Mabli Sefydlodd Llanfabli, Gwent. Cysylltir hi hefyd â Chefn Mabli.
  • Medwen wyres neu or-wyres Brychan. Mae ffynnon Medwen ger Llanbedr Pont Steffan.
  • Pedita wyres neu or-wyres Brychan ac yn chwaer i Clynnog
  • Tegan Chysylltir hi a Llanwnda ger Abergwaun. Mae safleoedd Capel Tegan a Ffynnon Tegan a bryncyn a elwir Cnwc Tegan yn yr ardal.
  • Wrw Santes o'r 6g a sefydlodd Eglwyswrw.

Datblygiad Clasau a Gwaliau Meudwyaid

golygu

Datblygodd clasau, sef llannau oedd yn canotbwyntio ar addysg ar draws y ddwy ardal. Mewn cyfnod pan bu athrawon a deunydd ysgrifenedig yn brin buasai'n ymarferol canoli adnoddau yn y fannau mwyaf cyfleus, ond ni wyddom os datblygodd y clasau oblegid yr amgylchiadu hyn neu os sefydlwyd hwy trwy gynllun bwriadol. Nes ymlaen yn y canrif datblygodd yr arfer o aelod o'r cymuned yn symud i fyw o'r neulltu mewn gwal, neu gell.[3] Nid oedd rhain yn ddihangfeudd rhag cymdeithas. Sefydlwyd hwy fel arfer o fewn pellter cerdded o'r llan, a bu gan y meudwy swyddogaeth penodol i'r cymuned, yn debyg i beth digwyddodd nes ymlaen yn yr Oesoedd Canol pan caewyd mynach neu lleian mewn cell nid oedd modd ei gadael, yn ymyl rhai eglwysi.[22] Bu yn ymarferol i unigolyn mynd at y meudwy gyda cwestiwnau neu i drafod anhawsterau ym mywyd beunyddiol y cymuned, gan wybod y buasent medru trafod yn cyfrinachol, a clywed barn wrthrychol ac awgrymiadau am newid.

Cyfnod o Heddwch

golygu

Bu'r chweched canrif yn llawer mwy heddychlon na'r ganrif blaenorol. Yn lle bwydro ymysg ei gilydd daeth penaethiaid y llwythau Brythoniaid at ei gilydd i wrthsefyll ymosodiadau'r Saeson tua'r dechrau y ganrif. Bu ganddynt arweinydd milwrol a elwid, mae'n debyg, Arthur.[23] Llwyddasant gwthio y Saeson yn ôl a'u trechu mewn ymdrech a gorffennwyd gyda brwydr Bryn Baddon yn 527 a rhwstrasant y Saeson rhag ymledu ymhellach i'r gorllewin am haner ganrif. Nid cyd-digwyddiad oedd y cynghrair hon. Cyfeirir at nifer o gymeradau â cysylltir â hanes Arthur ym mucheddau'r saint ac mewn llawysgrifau cynnar eraill (cyn i Sieffre o Fynwy rhamanteiddio'r hanesion ac ychwanegu atynt) fel cefndryd neu perthnasau i Arthur a hefyd yn wyrion neu gor-wyrion Brychan.[24] Datblygodd y cynghrair rhwng pennaethiad oedd yn perthyn o rhan gwaed.

Canlyniad y cyfnod o heddwch a dilynodd brwydr Bryn Baddon oedd rhyddhau penaethiaid, a'u meibion rhag treulio cymaint o amser yn amddiffyn eu tiroed a troesant at gweithgaredd Cristnogol. Gelwir y chweched canrif yn gyfnod 'cenhadol' [18] yn nhe a dde-orllewin Cymru ond yn wahanol i genhadon Oes Fictoria eu prif waith oedd lledu Cristnogaeth ym mro eu mebyd. Os symudasant i ardaloedd eraill, aethant oherwydd amgylchiadau ymarferol; cyd-ddigwyddiad oedd mynd a'u ffydd gyda hwy. O dde Cymru lledodd Cristnogaeth i ardaloedd Celtaidd eraill ond ni bu ymgais i cenhadu i'r dwyrain o Afon Hafren. Datblygodd rhaniad rhwng bywyd Cristnogol tu allan i'r prif llannau a bywyd mwy unplyg y clasau yn raddol yn ystod y chweched canrif. Daeth bywyd mewn clas yn fwy atyniadol ar ôl y pla melyn,a tarodd yn 547, gan troi sylw pobl at y byd nesaf a dechreuoedd rhai pennaethiad ofni anfon eu meibion at y clasau am addysg gan ofni y buasent i gyd yn troi at y bywyd ysbrydol.[2]

 
Santes Non (5g) ar ffenestr liw yn Nhyddewi

Saint Gwrywaidd

golygu

Dyma cyfnod Cadog, Illtud, Dewi, a Teilo a nifer o saint gwrywaidd llai adnabyddus. Daethant i gyd o'r teuluoedd pennaethiad a buont, bron i gyd, yn ddisgynyddion Brychan trwy eu mamau a'u neiniau. Yn aml dechrauir hanesion amdanynt trwy dweud "Ganwyd y sant hwn i deulu Cristnogol" heb egluro sut digwyddodd hyn ac mae cyfrolau am y saint yn aml yn anwybyddu y ffaith ni buasai'r gwaith yr un o'r saintiau yn bosibl heblaw am y gwaith a wneud yn y ganrif o'r blaen. Daeth etifeddiaeth trwy llinell gwrywaidd yn sefydlog yn y cyfnod hwn ac mewn canlyniad rhoddwyd enwau dynion i fwyafrif y llannau newydd. Goroesodd mwy o enwau saint gwrywaidd na saint benywaidd o'r 6g ymlaen, oherwydd yr arfer hwn, ond parhaodd y gwagedd hyn i gydweithio gyda' gwyr, a'u brodyr a'u meibion a'u merched.

Ar Draws y Môr

golygu
 
Mabyn mewn ffenestr liw o'r Oesoedd Canol yn Sant Neot

Cernyw a Llydaw

golygu

Bu cysylltiadau agos rhwng De Cymru, Cernyw a Llydaw yn Oes y Seintiau. Hwylio oedd y prif dull teithio a bu yn haws teithio i'r gwedydd hyn nac i Ogledd Cymru.[7] Bu' i r Brythoneg a siaredid yn Ne Cymru yn debycach i Frythoneg Cernyw nac i Frythoneg Gwynedd a gallasid teithwyr o Gymru cyfathrebu yn nealladwy yng Nghernyw. Bu cysylltiadau agos rhyng Cymru a Llydaw hefyd. Pan dychwelodd gweddillion byddin Macsen Wledig i Gymru arhosodd rhai yn Llydaw dan arweiniad Cynan brawd Elen.

Rhwng 460 a 480 bu ton o ymfudo o Ddyfnaint a Cernyw i Lydaw oherwydd cyrchoedd y Gwyddelod ar benrhyn Cernyw. Ymosodasant ar arfordir dde Cymru hefyd gan cipio'r brodorion fel caethweision; yn eu plith Padrig a Cristnogion eraill a dechreuodd Cristnogaeth lledu yn Iwerddon. Peidiodd yr ymosodiadau hyn erbyn 510 ac yn dilyn llwyddiant Arthur a'i gynghreiriad yn 527 nid oedd bygythiad difrifol gan y Saeson ychwaith. Teithiodd teuluoedd bonedd o Gymru i Gernyw gan fynd a'i ffydd gyda hwy a tyfodd eu niferoedd ar ôl 547 pan ysgubodd y pla melyn trwy Gymru. Daethant hwythau a'u plant, yn enwog fel saint Cernyw, Dyfnaint a Llydaw. Mae'r santesau sy'n perthyn i'r cyfnod hwn yw Non a'i chwaer Gwen o Gernyw a merch Gwen, Nwyalen. Mae pedair o ferched Brynach a Cymorth, Mynfer, Mabyn, Mwynen ac Endelyn; a Gwen Teirbron a Ffraid hefyd yn perthyn i'r ardal hon. Mae ganddynt hwy i gyd eu tudalennau eu hunain ar wikipedia.

Iwerddon a'r Alban

golygu

Ymsefydlodd Cristnogaeth fel ffydd dylanwadol yn Llydaw ac Iwerddon erbyn diwedd y chweched canrif; lledodd o'r Iwerddon i'r Alban ac am gweddill Oes y Saint bu cydweithio agos rhwng Cristnogion o gwmpas y Môr Celtaidd, gyda saint yn symud rhwng clasau ac yn sefydlu rhai newydd ar draws yr ardal. Heblaw am Brîd o Gil Dara, prin iawn yw'r tystiolaeth am santesau Gwyddelig yng Nghymru. Yng Nghernew y mae nifer o cysegriadau i santesau o dras Wyddeleg ac erbyn ail haner y 6g teithiodd saint Gwyddeleg i Gymru. Mae'n debyg fod santesau wedi gwneud y daith hefyd ond mae eu enwau hwy ar goll

Gwynedd

golygu

Ar ôl y Rhufeiniad.

golygu

Llenwyd y gwacter gweinyddol pan gadawasant gogledd Cymru gan deulu Cunedda Wledig [5]. Daethant o'r gogledd, o Ystrad Clud, i meddiannu Gwynedd; oedd, yn Oes y Saint, yn ymestyn o ddyfryn Clwyd yn y gogledd-ddwyrain hyd at afon Teifi yn y de-orllewin. Ni wyddom os daethant ar wahoddiad Macsen Wledig neu os cipiodd hwy rym yno ar ôl iddo gadael. Perodd eu dylanwad fod iaith y gogledd yn tipyn agosach i'r Gaeleg na'r Brythoneg a siaredid yn ne Cymru. Ni trodd y mwyafrif o deulu Cunedda at Cristnogaeth ac arhosodd Cristnogaeth yn ffydd leiafrifol yng Ngwynedd tan diwedd y chweched canrif. Gwelir dylanwad ffydd teulu y pennaeth ar ardal yn eglur iawn yng Ngheredigion. Llwyddodd Meleri ach Brychan a'i phlant troi yr ardal at Gristnogaeth ymhell cyn weddill Gwynedd. Ni ledodd Cristnogaeth yn gyson trwy Wynedd fel y gwnaeth yn y dde ond datblygodd mewn pentrefi ac ardaloedd bychan ar wahan.

Mewnfudo o Lydaw a Rheged

golygu

Bu saint Gwynedd yn llawer mwy cymysg eu cefndir na saint y dde. Nid oedd y mwyafrif ohonynt yn frodorion; symudasant i Wynedd o ardaloedd Celtaidd eraill. Heblaw am dair o ferched Brychan, Dwynwen, Ceinwen a Meleri, perthynai'r ychydig saint y pumed canrif i Elen; yn cynnwys Anhun, Eurgain, Gwenaseth, Madryn, Melangell, Tegla a Teigiwg. Ynghanol y chweched canrif daeth mewnlifiad saint o Lydaw. Pan fu farw Emyr Llydaw yn 546 cipiodd rym gan Hoel, un o'i feibion gan peri i weddill eu teulu i ffoi. Mae rhai yn esbonio y symudiad trwy cyfeirio at Ffrancod oedd wedi cipio rhannau o Lydaw ac eraill yn gweld lledainiad y pla melyn fel dylanwad pwysig yn y penderfyniad i adael Llydaw. Symudasant y mwyafrif ohonynt i Wynedd.[7] Cafodd eu safle mewn cymdeithas fel perthnasau i bennaithiaid eu cydnabod gan deulu Maelgwn Gwynedd a caniatawyd iddynt ymsefydlu ar yr amod eu bod hwy yn peidio ag ymyrryd yn llywodraeth Gwynedd ond yn canolbwyntio ar fywyd ysbrydol. Ymsefydlodd y saint hyn, yn cynnwys Canna, Eurfyl, Llechid, Llywen, a Tegfedd, ac efallai Enddwyn (ni gwyddom ddim amdani ond sefydlodd Llanenddwyn) ar lan Bae Ceredigion, ar penrhyn Lleyn ac ar Ynys Môn ac wedyn lledodd cylch eu dylanwad yn raddol ymhellach o'r arfordir. Rhoddodd Maelgwn Gwynedd caniatâd i deulu Coel o Rheged ymsefydlu ar Ynys Môn ar ôl iddynt hwythau gorfod ffoi o'u gwlad. Yn eu plith oedd y chwiorydd Cywyllog, Gwenabwy a Peillian a dwy arall Gwenaseth a Gwenfaen. Daeth Ffraid a Rhuddlad o Iwerddon. Roedd Marchell o Feirion yn wyres i Marchell ach Tangwystl Gloff a priododd Gwrin pennaeth Meirionydd. Ni wyddom o ble daeth Cywair, Machreth ac Wddyn. Gwelir y rhaniad rhwng grym penaethiad dros fywyd bob dydd a dylanwad y saint dros bywyd ysbrydol yn eglur iawn yng Ngwynedd a daeth geiriau megis 'bangor' a 'betws' yn ogystâl a 'llan' a 'clas' i olygu cymuned Cristnogol.

Ffiniau Deheuol Cymru

golygu

Parhaodd y llwythau Celtaidd i masnachu gyda Môr y Canoldir ac oherwydd hyn cafodd y pla melyn mwy o effaith arnynt nac ar y Saeson. Methasant atal y Saeson rhag ymledu ymhellach tua'r gorllewin a cyrhaeddodd y Saeson arfordir y Hafren ar ôl ennill brwydr ger Bryste yn 577 gan wahanu Cymru oddi wrth penrhyn Cernyw. Arosodd Dyfnaint yn nwylo Celtaidd tan 710 a Cernyw hyd 950 ond gwanychwyd y cysylltiadau yn raddol a daeth Cernyweg yn llai dealladwy i'r Cymry.

Gogledd-Ddwyrain Cymru

golygu

Yn y cyfnod hwn estynnai Powys mor bell i'r gogledd a Bangor-is-y-Coed, ble seflydwyd clas enwog gan nifer o saint y dde yng ynghanol y 6g. Ar dechrau y 7g llwyddodd y Saeson meddiannu ardal Caer, gan ennill Brwydr Caer yn 610.[5] Torrodd y cysylltiad dros y tir rhwng gogledd Cymru a tiroedd yr "Hen Ogledd," sef Rheged (Ardal y Llynnoedd) ac Ystrad Clud. Ymosododd ar y clas ym Mangor-is-y-Coed a lladdwyd nifer fawr o'r trigolion. Dihangodd y gwedill i Ddyfryn Clwyd. Yn yr un flwyddyn symudodd Beuno, un o'r saint mwyaf adnabyddus y gogledd, o'i bentref enedigol Llanymynech, i Wynedd, oherwydd iddo clywed Sacsoneg yn cael ei siarad ar ochr draw y Hafren.[21] Tua'r un adeg mewnfudodd saint eraill o'r Hen Ogledd. Bu disgynyddion Nefyn ach Brychan yn eu plith, gan gynnwys Deiniol a sefydlodd Bangor-fawr-yn Arfon a Cyndeyrn, neu Mungo a sefydlodd Llanelwy.

Diwedd Oes y Saint

golygu

Ardal dylanwad y Saint Celtaidd

golygu
 
Milburgha, Eglwys Broseley

Lledodd Cristnogaeth Geltaidd ar draws yr ardaloedd gorllewinol Ynysoedd Prydain a Phrydain Fechan (Llydaw) oedd wedi gwrthsefyll ymosodiadau y Sacsoniaid yn ystod Oes y Seintiau. Yn yr un cyfnod gwanychwyd cysylltiadau rhwng y gwledydd Celtaidd yn raddol wrth i'r Brythoneg a'r Gaeleg newid, dros amser, i'r chwech iaith Celtiaid a siaradir heddiw. Llwyddodd y Saeson i feddiannu'r gororau yn raddol yn y 7g a'r 8g gan adeiladu Clawdd Offa rhwng 757-796 i ddynodi ffin gorllewinol Lloegr.[5] Daeth Cymru a'r iaith Gymraeg yn endidau tebycach i'r hyn a welir heddiw.[5] Yn ystod y cyfnod hwn lledodd Cristnogaeth Geltaidd drwy teyrnasoedd y Sacsoniaid yng ngogledd a gorllewin Lloegr hefyd. Bu seiliau Cymreig i Cristnogaeth gorllewin Mersia, tra bu cenhadon o'r Iwerddon a'r Alban yn ddylanwadol yng Ngogledd Lloegr. Sefydlodd santesau o dras Celtaidd (fel Modwen yn Burton upon Trent) gymunedau Cristnogol yn Lloegr. Gwelwyd gwragedd o deuluoedd penaethiaid Sacsoniaidd, fel Hilda yn Whitby a Werburgha yng Nghaer, yn arwain cymunedau; tra yn Much Wenlock (mawr-wen-llan) yr arweinydd oedd Milburgha, (Sacsones oedd ei mam, Eafe, merch pennaeth Caint,[25] ond Cymro oedd ei thad: Merewalh. Mae dogfennau o'r diwedd yr Oesoedd Canol yn honni ei fod yn fab i Penda pennaeth Mersia ond gan fod ei enw yn cyfieithu i 'Cymro Enwog' mae amheuaeth wedi codi.[26][27])

Yr Eglwys Rhufeinig

golygu

Dim ond yn ne-ddwyrain Lloegr ailsefydlwyd Cristnogaeth Rhufainig dan arweiniad Awstin a glaniodd yng Nghaint yn 597. Gwnaethpwyd yr ymgais cyntaf i datrys gwahaniaethau rhwng y ddwy cyfundrefn yn Whitby yn 664.[5] Penderfynnodd o blaid yr Eglwys Rhufeinig ar rhai materion ac yn raddol ildiodd gogledd Lloegr, ac yn araf iawn y gwledydd Celtaidd, i arweinyddiaeth Rhufain. Parhaodd y Cymry i wrthsefyll y newid tan 768 pan ildiodd esgobaeth Bangor i awdurdod y Pab ac arhosodd y Cymry yn annibynnol ar Gaergaint tan ar ôl y goresgyniad Normaniaid. Yr esgob cyntaf o Gymru i tyngu llw o ufudd-dod i Archesgob Caergaint oedd Urben, esgob Morgannwg yn ystod haner cyntaf y 12g.

Cymunedau 'Dwbl'

golygu

Mewn rhai llefydd yn enwedig yn Iwerddon a'r Alban , rhannwyd llan yn raddol i ddwy gymuned, un ar gyfer gwragedd a'r llall ar gyfer dynion, bob un gyda'i eglwys. Cyfeirir at rhain fel mynachlogydd dwbl, ond nid oes tystiolaeth am y drefn hon cyn dyfodiad y Normaniaid. Ni wyddom am ba hyd y bu pobl priod yn dal i fyw ynddynt ac nid oes tystiolaeth fod cymunedau fel hyn wedi bodoli yng Nghymru. Y Mae y tystiolaeth ysgrifenedig cynharaf, megis Buchedd Gwenffrewi, yn dangos gwragedd a ddynion yn cydweithio yn yr un llannau.

Newid dros Amser

golygu

Dros y canrifoedd trodd mwyafrif y llannau yn bentrefi cyffredin. Ni gadewsant ond ychydig bach o dystiolaeth archiolegol am eu adeiladwaith gan defnyddiwyd yr adeiladau ac ail-adeiladodd nifer o weithiau ar yr un safle; ond gadawsant eu ffydd Cristnogol fel cymynrodd i werin Cymru. Pan caewyd mynachdai a lleiandai gadwsant adeiladau mewn llefydd unig a trodd yn adfeilion sy'n sefyll hyd heddiw; yr unig tystiolaeth i'r hyn a fu. Parhaodd rhai clasau fel sefydliadau Cristnogol annibynnol mewn ardaloedd o dan awdurdod Tywysogion Cymreig, yn addysgu plant uchelwyr, nes y goresgyniad Edwardaidd.[12] Sefydlodd ambell clas o'r newydd o dan y Tywysogion , yn eu plith Betws Gwerful Goch, dan arweiniad Gwerfyl, wyres Owain Gwynedd.[10] Ymhlith y clasau mwyaf enwog oedd Llanbadarn Fawr oedd yn dal i gadw cofnodion am weithredoedd Tywysogion Cymreig yn Brut y Tywysogion pan sefydlodd y Sistersaidd Ystrad Fflur yn 1164.[28] Yn araf newidiodd swyddogaeth arweinydd y clasau hyn i abad neu esgob.

Urddau Normanaidd

golygu

Gyda'r Normaniaid daeth sawl urdd o fynachod o'r cyfandir. Ymsefydlodd y mynachod hyn mewn rhai clasau gan eu troi at reolau eu hurdd. Digwyddodd hwn yn bennaf mewn ardaloedd ble bu Normaniaid yn rheoli a defnyddiwyd Urdd y Benedictaidd gan goron Lloegr i sicrhau gafael y Normaniaid ar yr Eglwys Gymreig. Daeth y Sistersaidd i Gymru yn 1140.[29] Roeddent yn fwy derbyniol i'r Cymry am ddau reswm. Roeddent yn atebol i Ben-Abad ym Mwrgwyn (rhan o Ffrainc) ac felly ni ddeuent yn uniongyrchol dan ddylanwad brenhinoedd Lloegr. Arferent chwilio am lefydd anghysbell i sefydlu eu mynachlogydd yn hytrach na chymeryd drosodd sefydliadau oedd eisoes yn bodoli.

Ailgysegru

golygu

Arferai'r mynachod ailgysegru eglwysi i seintiau Beiblaidd neu Gatholig. Rhoddai'r Sistersaidd bwyslais arbennig ar Mair;[4] oedd, efallai, yn arwain at colli enw gwreiddiol ar eglwys oedd yn dwyn enw santes yn amlach nag un oedd yn dwyn enw sant. Mae nifer fawr o eglwysi hefyd yn dwyn enw Mihangel oherwydd poblogrwydd y sant gyda'r Normaniaid. Canlyniad hyn yw fod map Cymru yn frith o bentrefi yn dwyn enau Llanfair neu Llanfihangel ac mae'r cysylltiad rhwng eu heglwysi a'u saint leol wedi'i golli. Weithiau gellid dod o hyd i'r sant gwreiddiol naill oherwydd bod ei enw wedi goreosi yn enw pentref neu fel ail elfen yn enw'r eglwys. Weithiau ceir tystiolaeth ysgrifenedig yn dangos i bwy roedd yr elgwys wedi'i chysegru gynt; ond nid y'wn bosilbl gwybod faint o newidadau oedd. Gelwir nifer o ffynhonnau Cymru yn 'Ffynnon Mair' neu 'Ffynnon ein Harglwyddes' ond mae'n debygol nad iddi yr oeddent wedi'u cysegru'n wreiddiol. Mae nifer o flodau gwyllt cyffredin yn dwyn yr enw Mair fel rhan o'u henwau. Prin iawn yw'r blodau sy'n dwyn enw santes o Gymru: y mae'r gwenonwy, y banadl a fenigl elen yn ddair ohonynt ond efallai bu llawer mwy ar ddiwedd Oes y Seintiau.

Diffyg etifeddiaeth ysgrifenedig

golygu

Ni oroesodd deunydd ysgrifenedig o'r cyfnod a chollwyd gweddïau a myfyrdodau Oes y Seintiau. Y deunydd tebycaf sydd ar gael yw cofnodion o'r Oesoedd Canol, mewn Gaeleg a Gwyddeleg,o weddïau oedd wedi trosglwyddo ar lafar yn yr Alban ac Iwerddon. Gwelir ynddynt bwyslais ar y byd naturiol a'r gwerin yn gofyn am gymorth gan Duw a'r saint yn eu gwaith beunyddiol mewn amaeth ac yn eu cartrefi a'u teuluoedd.. Bu yr un materion o bwys i'r gwerin yn Oes y Seintiau yng Nghymru a gellid tybio fod yr arfer o ofyn cymorth gan saint wedi tyfu yng Nghymru hefyd fel ganlyniad o glywed sôn am y saint yn cynorthwyo eraill yn ystod eu bywydau. Pan ddechreuodd cofnodi gweddïau Celtaidd yn ysgrifenedig cyfeiriodd weithiau at saint Celtaidd a weithiau at saint Gatholig; ond efallai mewn fersiynau blaenorol a defnyddiwyd ar lafar bu y saint a gyfeirwyd atynt i gyd yn saint lleol.

Cymysgu credoau a datblygiad cwltiau

golygu

Arhosod y werin yn ffyddlon i'w cof o'u saint lleol trwy'r Yr Oesoedd Canol. Ceisiodd yr Eglwys Gatholig dylanwadu arnynt i troi eu sylw at saint Beiblaidd a Catholig ond ni ceisiodd addysgu'r werin fel y gwnaeth gan yr Eglwys Geltaidd. Dewi oedd yr unig sant a gydnabuwyd gan y Pabau a bu ystyriaethau gwleidyddol dros gwneud hwn.[5] Gallem tybio fod pwyslais yr Eglwys ar "saint" (yn yr ystyr Catholig) wedi ychwanegu at cred werin ddiddysg yn eu 'saint' nid yn unig fel yr arweinyddion lleol yr oeddent ond fel bodau oedd nid yn unig yn gallu bod yn cyfryngau rhynddynt â Duw ond hefyd yn bobl gyda galluoedd goruwchnaturiol. Bu addoliad mewn Lladin yn annealladwy i'r werin a parhaodd i addoli hefyd yn y mannau cysylltiedig gyda'u saint gan gymysgu'r ffydd Cristnogol â credoau mewn pethau eraill. Rhoddwyd rhai o briodoleddau y duwiau Celtiaid i'r saint a datblygodd nifer o gwltiau o gwmpas enw ambell santes oedd yn gymysgedd o hanes; gredoai cyn-Gristnogol ac ofergoelion.

Pwysigrwydd ffynhonnau

golygu

Daeth ffynhonnau yn ganolig i gred y werin. Buont yn pwysig i credoai cyn-Gristnogol [10] a gwyddai rhai, cyn oes y saint, am rinweddau dŵr o wahanol ffynhonnau i iacháu wahanol afiechydon, oherwydd y gwahanol mwynau yn y dŵr, er nad oeddent yn deall sut digwyddodd hyn. Gallem tybio fod y saint wedi defnyddio y wybodaeth hon. Bu wybodaeth feddygol yn prin iawn yn yr Oesoedd Canol a ddim ar gael i neb ond y cyfoethog. Pan daeth wellhad o afiechyddon y croen ac afiechydon y cylla ar ôl yfed neu ymolchi mewn dŵr ffynnon, priodolodd y werin eu wellhad i wyrth gan sant y ffynnon. Deallir y cysylltiad rhwng iechyd ac ymolchi ac yfed dŵr glan yn wahanol erbyn heddiw.

Ar ôl y Diwygiad Mawr

golygu

Daeth ymdrech arall i diddymu pwyslais ar saint gyda dyfodiad yr Eglwys Anglicanaidd a oedd yn rhannol llwyddiannus, ond parhaodd arferion cysylltiedig â'r saint nes i'r enwadau anghydffurfiol dechrau addysgu'r werin ar diwedd y 18g.[5] Erbyn y 19g cymerwyd yn caniataol fod chwedlau oedd y hanesion am y saint. Efallai y buasent wedi diflannu yn llwyr o hanes Cymru heblaw am ddidordeb newydd ynddynt gan haneswyr Oes Fictoria a'r twf mewn cenedlaetholdeb yn y 20g. Erydodd pellach ar wybodaeth am gyfraniad santesau gan tueddiad yn Oes Fictoria i cymryd yn caniataöl fod dynion yn unig oedd yn gallu arwain,[8]. Santesau oedd Nefydd, Eurfyl a Tegla; erbyn heddiw defnyddir eu henwau fel enwau bechgyn. Cyfeiriodd at ambell sant fel disgybl i sant arall, er enghraifft: Elliw disgybl Cadog neu Lili disgybl Dewi, sydd yn cuddio eu rhyw ac efallai perthynas arall rhyngddynt.

Y Santesau mewn Addysg

golygu

Dysgir plant heddiw am saint fel unigolion yn unig heb gefndir hanesyddol, sydd yn peri parhad yn y pwyslais ar nifer fychan o saint gwrywaidd a dechreuodd gan fynaich yr Oesoedd Canol.[6] Pan sonnir am santesau canolbwyntir ar un digwyddiad un eu bywydau neu un ffynnon a darganfuwyd trwy dulliau a ymddangoswyd yn wyrthiol. Prin yw'r Cymry heddiw sydd yn gwybod am eu santesau fel gwragedd oedd yn arwain ac yn addysgu ac ni welodd rheidrwydd dewis rhwng bywyd Cristnogol mewn cymuned a phriodi a magu teulu.

Y Santesau mewn Hanes Cymru

golygu

Mae'r gwragedd hyn yn gyfangwbl unigryw. Er gwaethaf tueddiad haneswyr i anwybyddu hanes menywod a chofnodi enwau ychydig o ddynion yn unig; ac er gwaethaf byw mewn cyfnod pan bu cofnodion ysgrifenedig yn prin iawn; mae dros 90 o enwau santesau Oes y Seintiau wedi goroesi. Gydag ambell un, fel Meddwid, ni wyddom ddim amdani ond ei henw a chyda eraill, fel Dilwar, ni wyddom ddim amdani ond ei dydd gŵyl, sef y 4ydd o Chwefror ond mae eu goroesiad, mewn cof gwerin yn cyntaf, yn tystiolaeth i'w cyfraniad at y Cymru a daeth i fodolaeth yn eu oes hwy. Ond anwybyddir cyfraniad santesau megis merched Brychan, nid yn unig i ddatblygiad yr Eglwys Geltaidd, ond hefyd eu dylanwad a'r safle gwragedd mewn cymdeithas Cymreig, bron yn llwyr. Ni sonnir amdanynt pan cyfeirir yn aml at eu brodyr. Adroddir hanesion eu disgynyddion mwyaf enwog, heb nodi nid cyd-ddigwyddiad oedd fod cynifer o saint wedi cyfoesi yn Ne Cymru; buont yn perthyn i'w gilydd trwy eu mamau a'u neiniau.

Perodd dylanwad y 'saint' i Gristnogaeth datblygu a sefydlu fel prif crefydd yng Nghymru a lledu i'r gwledydd Celtaidd eraill ynghynt nac i weddill gogledd Ewrop. Bu rhaid ailgyflwyno Cristnogaeth i Loegr. Yng Nghymru, er nad oedd y diwylliant Rhufeinig wedi gwreiddio mor dwfn, llwyddodd y ffydd Cristnogol nid yn unig i goroesi ond hefyd i lledu nes tyfodd yn brif crefydd y wlad. Hwn yw'r tystiolaeth pwysicaf sy'n dangos nid cymeriadau chwedlonol bu'r saint. Mae straeon am santesau Cymru yn llawer iawn agosach i hanes nac i chwedl. Mae angen mwy o ymchwil am y gwragedd hyn ac maent yn haeddu eu priod le yn hanes Cymru.

Gwelir hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Baring-Gould,S a Fisher, J1907, Lives of the British Saints, Cymrodorion
  2. 2.0 2.1 Bund, J.W. 1897,The Celtic Church in Wales, Nutt
  3. 3.00 3.01 3.02 3.03 3.04 3.05 3.06 3.07 3.08 3.09 Bowen, E.G. 1956, The Settlements of the Celtic Saints in Wales, Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. 4.0 4.1 4.2 Warner, M, 1976, Alone of All her Sex, Gwasg Picador
  5. 5.00 5.01 5.02 5.03 5.04 5.05 5.06 5.07 5.08 5.09 5.10 5.11 5.12 5.13 Davies, J, Hanes Cymru, 1990, Penguin
  6. 6.0 6.1 Fraser, D, 1966, Y Goresgynwyr, Gwasg Prifysgol Cymru
  7. 7.0 7.1 7.2 Bowen, E. G. 1969, Saints, Seaways and Settlements, Gwasg Prifysgol Cymru
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 8.5 Doble, G.H. 1971,Lives of the Welsh Saints, Gwasg Prifysgol Cymru
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 9.5 9.6 9.7 9.8 Jones, T.T. 1977, The Daughters of Brychan, Brycheiniog (cylchgrawn) Cyf.XVII
  10. 10.0 10.1 10.2 Breverton, T.D.2000, The Book of Welsh Saints, Glyndwr Publishing.
  11. Spencer, R, 1991 The Saints of Wales and the West Country, Llanerch
  12. 12.0 12.1 Gover, M, 2015, Cadfan's Church, Matador
  13. Deleney, JJ. 1982, A Dictionary of Saints, Kaye and Ward
  14. Williams, G. 1962 The Welsh Church, Gwasg Prifysgol Cymru
  15. Er enghraifft: Genesis 16.17; 21.17; 24.17 a 29.9
  16. Efengyl Ioan, Pennod 4.
  17. 17.0 17.1 Shaw, B. 1994, Women and the Early Church, History Today (clychgrawn)
  18. 18.0 18.1 18.2 Evans, G. 1971, Aros Mae, Gwasg John Penry
  19. Farmer, D,H,1987, The Oxford Dictionary of Saints. Oxford University Press
  20. Tomos, R, 1996, Merched Brychan, yn cylchgrawn Benywdod a Duw
  21. 21.0 21.1 Chadwick, N, 1960, The Age of Saints in the early Celtic Church, Llanerch
  22. Upjohn, S.1989, In Search of Julian of Norwich,Darton, Longman,Todd
  23. Ashe, G,1968, The Quest for Arthur's Britain, Paladin
  24. Bromwich, R,Jarman A.O.H, Roberts B.F. (Gol.)1991, The Arthur of the Welsh, Gwasg Prifysgol Cymru.
  25. Mumford, W.F. 1977, Wenlock in the Middle Ages, Redverse
  26. Bryan, D. 2006, Ditton Priors, a Settlement of the Brown Clee, Logaston
  27. Pretty, K. 1989, Defining the Magonsaete, Bassett
  28. James, M A, Lantern for Lord Rhys (Gwasg Gomer)
  29. Williams, S.W., The Cistercian Abbey of Strata Florida (Whiting, 1889)