Mynwent Aberfan
Mae Mynwent Aberfan ger pentref Aberfan, Merthyr Tudful. Mae’n un o bum mynwent ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac mae’n adnabyddus am feddi 144 o bobl a bu farw yn ystod trychineb Aberfan ym 1966, pan lithrodd tomen pwll glo gan ladd llawer o bobl ym mhentref Aberfan.
Math | mynwent |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Tudful |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.691675°N 3.348193°W |
Rheolir gan | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful |
Hanes
golyguAgorwyd y fynwent yn 1876, ac mae'n cynnwys Mynwent Bryntaf, estyniad a agorwyd yn 1913.[1] Mae'n gorchuddio tua 8 erw(3 hectar).[1] Mae'r fynwent wedi'i hachredu â'r Faner Werdd.[1]
Yn 2022 rhestrwyd y fynwent, ynghyd â’r ardd goffa ac ardal y domen a’i llwybr sleidiau, ar Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Mae cofnod y safle rhestredig Gradd II* yn ei ddisgrifio fel un "o bwysigrwydd ac ystyr cenedlaethol mawr."[2]
Yn ogystal â chofeb i ddioddefwyr trychineb Aberfan, mae cofeb filwrol hefyd i saith milwr a foddwyd ym Môr Hafren yn 1888.[3][4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Council, Merthyr Tydfil County Borough. "Burial and Cremation". Merthyr Tydfil County Borough Council (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-26.
- ↑ Nodyn:NHAW
- ↑ "Bryntaf Cemetery (Aberfan)".
- ↑ "Aberfan Bryntaf Cemetery". Commonwealth War Graves Commission.