Aberfan

pentref ym Merthyr Tudful

Pentref yng nghymuned Ynysowen, bwrdeistref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Aberfan[1][2] (hefyd Aber-fan). Saif tua 6.4 km i'r de o Ferthyr Tydfil. Rhed Afon Taf yn ogystal â Llwybr Taf (sy'n dirwyn o Droed-y-rhiw, i Dreharris) trwy'r pentref.

Aberfan
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnysowen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6917°N 3.3456°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO070002 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDawn Bowden (Llafur)
AS/auGerald Jones (Llafur)
Map

Ceir dwy ysgol yma: Ysgol Gynradd Ynysowen ac Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4]

Trychineb Aberfan golygu

Ddydd Gwener, 21 Hydref 1966, am 9.15 y bore, llithrodd tomen lo o weithfa rhif 7 i lawr llethrau'r bryniau uwchlaw'r pentref gan gladdu Ysgol Gynradd Pantglas ac ugain o dai a ffermdy. Lladdwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant, gyda'r mwyafrif ohonynt rhwng 7 a 10 oed. Lladdwyd pump athro yn y drychineb. Dim ond cnewllyn o ddisgyblion a oroesodd y digwyddiad.

Roedd y domen lo yn cynnwys creigiau o bwll glo lleol. Roedd y disgyblion newydd adael y gwasanaeth boreuol yn y neuadd, lle buont yn canu "All Things Bright and Beautiful", am eu hystafelloedd dosbarth, pan glywsant sŵn mawr y tu allan. Roedd yr ystafelloedd dosbarth ar ochr y tirlithriad.

Rhoddwyd y bai am y drychineb ar y Bwrdd Glo Cenedlaethol gan dribiwnlys, ac fe'i orchmynnwyd i dalu iawndal o £500 am bob plentyn i deuluoedd ag dyma yn marw. Darganfuwyd fod y tomen lo wedi bod yn suddo ers misoedd, ond ni wnaethpwyd dim am y mater. Dywedwyd fod dwr wedi cynyddu yn y pentwr o wastraff ar ben y mynydd gan achosi i'r gwastraff lifo i lawr y mynydd.

Ar ôl nifer o apeliadau, defnyddiwyd rhan o'r gronfa i wneud gweddill y tip glo yn ddiogel ac osgôdd y Bwrdd Glo Cenedlaethol y gost lawn o wneud hyn. Ad-dalodd llywodraeth y Blaid Lafur £150,000 ym 1997, ond pe bai chwyddiant wedi cael ei ystyried byddai'r swm hwn yn agos i £2 miliwn.

Caewyd y pwll glo ym 1989.

Ym mis Chwefror 2007 cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad gyfraniad o £2 filiwn i Gronfa Goffa Trychineb Aberfan, fel rhyw fath o iawndal am yr arian a gafodd y llywodraeth yn y cyfnod yn union ar ôl y drychineb.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Medi 2019
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-24.
  4. Gwefan Senedd y DU