Mynydd uchaf Iran a'r Dwyrain Canol yw Mynydd Damavand (Perseg: دماوند ; Kuh-e Damavand), a elwir hefyd yn Demavand neu Donbavand weithiau. Mae'n llosgfynydd tawel gyda lle arbennig ym mytholeg a llên gwerin Persia. Wedi'i leoli yng nghanol cadwyn Mynyddoedd Alborz (neu Elborz/Elburz), ger copaon Varārū, Sesang, Gol-e Zard a Mīānrūd, Damavand yw'r copa uchaf yn y Dwyrain Canol a'r llosgfynydd uchaf yn Asia gyfan. Gorwedd y mynydd ger arfordir deheuol Môr Caspia, yn Swydd Āmol, talaith Māzandarān.

Mynydd Damavand
Mathmynydd, stratolosgfynydd, atyniad twristaidd, tirnod Edit this on Wikidata
Damavand pronounce.ogg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolVolcanic Seven Summits Edit this on Wikidata
SirSir Amol Edit this on Wikidata
GwladBaner Iran Iran
Uwch y môr5,610 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.9553°N 52.1092°E Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd4,667 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaElbrus Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddAlborz Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Iran. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.