Mynydd Drws y Coed
mynydd (695m) yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Mynydd Drws-y-Coed)
Mynydd yng Ngwynedd sy'n rhan o Grib Nantlle yw Mynydd Drws y Coed, weithiau Mynydd Drws-y-coed. Saif rhwng Y Garn i'r gogledd-ddwyrain ar hyd y grib a Trum y Ddysgl i'r de-orllewin.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Moel Hebog |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 695 metr |
Cyfesurynnau | 53.0453°N 4.1639°W |
Cod OS | SH549520 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 57 metr |
Rhiant gopa | Trum y Ddysgl |
Cadwyn fynydd | Moel Hebog |
Caiff ei enw o ffermdy a bwlch Drws y Coed ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle ar ochr ogleddol y mynydd. Ar lethrau deheuol y mynydd, mae rhan uchaf Coedwig Beddgelert. Gellir ei ddringo trwy ddringo'r Garn o bentref Rhyd Ddu gyntaf.