Y Garn (Rhyd-Ddu)
bryn (633m) yng Ngwynedd
Mynydd 633m ger Rhyd-Ddu yn Eryri, Gwynedd, yw Y Garn. Mae'n rhan o gadwyn Crib Nantlle, cyfres o fryniau sy'n ymestyn i'r gorllewin-de-orllewin o bentref Rhyd-Ddu am tua 9 km gan orffen uwchben Talysarn a Nebo: y grib yma sy'n ffurfio ffin deheuol Dyffryn Nantlle, tra mae Cwm Pennant i'r de ohoni.
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Moel Hebog |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 633 metr |
Cyfesurynnau | 53.0514°N 4.1625°W |
Cod OS | SH5515252649 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 21 metr |
Rhiant gopa | Trum y Ddysgl |
Cadwyn fynydd | Moel Hebog |
- Am fryniau eraill o'r un enw gweler Y Garn (gwahaniaethu).
Y Garn yw'r bryn cyntaf a ddringir wrth gerdded Crib Nantlle gan gychwyn o Ryd-Ddu. Y copa nesaf ar y grib yw Mynydd Drws-y-Coed (695m) uwchben bwlch Drws-y-Coed.
Ceir golygfa eang o'r copa, gan gynnwys clogwynni trawiadol Craig y Bera ar lethrau deheuol Mynydd Mawr, Dyffryn Nantlle ei hun, a'r Wyddfa.
Llyfryddiaeth
golygu- Terry Marsh (1993) The summits of Snowdonia (Robert Hale) ISBN 0-7090-5248
- W.A.Poucher (1962) The Welsh Peaks (Constable) ISBN 0-09-461750-3