Mynydd Graig Goch
bryn (609.75m) yng Ngwynedd
Mynydd yng Ngwynedd sy'n rhan o Grib Nantlle yw Mynydd Graig Goch. Saif ar ben de-orllewinol Crib Nantlle, i'r de-orllewin o gopa Craig Cwm Silyn gyda chopa Garnedd Goch i'r dwyrain ohono.
Math | copa, mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 610 metr |
Cyfesurynnau | 53.0128°N 4.2414°W |
Cod OS | SH4973248518 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 71 metr |
Rhiant gopa | Craig Cwm Silyn |
Cadwyn fynydd | Crib Nantlle |
Hyd at 2008, ystyrid mai ei uchder oedd 609m neu 1,998 troedfedd. Ail-fesurwyd ef y flwyddyn honno, a'r canlyniad oedd ei fod yn 609.75 medr, neu 2,000.49 troedfedd, ac felly yn swyddogol yn fynydd yn hytrach nag yn fryn. I'r gogledd o'r copa mae Craig Cwm Dulyn yn arwain i lawr at Lyn Cwm Dulyn