Llyn Cwm Dulyn
llyn, Gwynedd, Cymru
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Cwm Dulyn. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 34 acer, 779 troedfedd uwch lefel y môr, ychydig i'r dwyrain o bentref Nebo yn Nyffryn Nantlle. Ar ochr ddwyreiniol y llyn mae Craig Cwm Dulyn, ac ychydig ymhellach i'r dwyrain mae copa Garnedd Goch, lle mae Crib Nantlle yn gorffen. Mae Llynnau Cwm Silyn ychydig i'r gogledd.
Math | llyn, cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.02206°N 4.24995°W |
Rheolir gan | Dŵr Cymru |
Defnyddir y llyn fel cronfa i gyflenwi dŵr i ardal Llanllyfni, Pen-y-groes a Talysarn; adeiladwyd yr argae yn 1901. Mae'r llyn yn 97 troedfedd o ddyfnder yn y man dyfnaf. Ceir brithyll yma, a dywedir fod torgochiaid wedi bod yma ar un adeg. Dywedir i arolwg a wnaed yn 1809 ac a gyhoeddwyd gan y bardd Dafydd Ddu Eryri ddangos fod y pysgod yma yn bresennol.
Llyfryddiaeth
golygu- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)