Mynydd y Dorth Siwgr (Brasil)
Lleolir Mynydd y Dorth Siwgr (Portiwgaleg: Pão de Açúcar), yn Rio de Janeiro, Brasil, o aber Bae Guanabara ar benrhyn yng Nghefnfor yr Iwerydd. Mae'r mynydd dros 396 medr (1,299 ft) uwch lefel y mor, a dywedir fod yr enw'n tarddu o'r tebygrwydd rhwng siap y mynydd a siap traddodiadol torth siwgr. Fodd bynnag, cred rhai fod yr enw'n deillio o Pau-nh-acuqua (“bryn uchel”) yn yr iaith Tupi-Guarani, fel a ddefnyddir ymhlith y Tamoios brodorol.
Math | inselberg, clogwyn, treftadaeth naturiol, mynydd |
---|---|
Enwyd ar ôl | morooco |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Urca |
Sir | Rio de Janeiro |
Gwlad | Brasil |
Uwch y môr | 395 metr |
Cyfesurynnau | 22.9494°S 43.1567°W |
Statws treftadaeth | heritage asset listed by IPHAN |
Manylion | |
Deunydd | gwenithfaen, gneiss |
Ymddangosiadau yn y cyfryngau
golyguMae'r mynydd yn enwog am ei ymddangosiad cofiadwy yn y ffilm James Bond, Moonraker lle mae'r dihiryn Jaws yn ceisio lladd 007 a'i gyfaill Dr. Holly Goodhead ar dram. Defnyddir y copa hwn mewn ffilmiau er mwyn gosod y lleoliad yn syth, am fod y mynydd yn cael ei gysylltu gymaint â Rio de Janeiro.
Dolenni allanol
golygu- (Portiwgaleg)(Saesneg)(Sbaeneg) Gwefan Swyddogol