Rio de Janeiro neu Rio[1] yw ail ddinas fwyaf Brasil, De America, y tu ôl São Paulo a Buenos Aires. Ystyr ei henw Portiwgaleg yw "Afon Ionawr". Fe'i lleolir ar arfordir ddwyreiniol canolbarth Brasil sy'n enwog am ei thraethau godidog a Mynydd y Dorth Siwgr. Hi hefyd yw'r chweched dinas fwyaf o ran poblogaeth yn yr America gydag oddeutu 6,747,815 (1 Gorffennaf 2020)[2] o bobl.

Rio de Janeiro
Montagem RJ.jpg
Brasão da cidade do Rio de Janeiro.svg
MathBwrdeisdref ym Mrasil, prifddinas, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion, ail ddinas fwyaf Edit this on Wikidata
Pt-br Rio de Janeiro.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,747,815 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 Mawrth 1565 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMarcelo Crivella Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Adelaide, Ahmedabad, Amsterdam, Athen, Atlanta, Barcelona, Batangas City, Batumi, Baku, Beijing, Beirut, Bwcarést, Buenos Aires, Busan, Cabo Frio, Caracas, Casablanca, Cuzco, Dubai, Durban, Guimarães, La Habana, Istanbul, Jeddah, Jeriwsalem, Jounieh, Kaohsiung, Kiev, Kobe, La Paz, Lagos, Lisbon, Lerpwl, Madrid, Managua, Manaus, Maputo, Dinas Mecsico, Montpellier, Natal, Newark, Nice, Niterói, Dinas Oklahoma, Paola, Póvoa de Varzim, Puerto Varas, Ramallah, Ramat Gan, Rufisque, St Petersburg, Saint-Tropez, Santa Cruz de Tenerife, Santo Domingo, Seoul, Tel Aviv, Tiwnis, Vancouver, Vila Nova de Gaia, Warsaw, Yerevan, Nairobi, Naoned, Santo Tirso, Miami, Teresópolis, Cwlen, Praia, Macau, Cali, Samarcand, Viseu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRio de Janeiro Edit this on Wikidata
GwladBaner Brasil Brasil
Arwynebedd1,260.029215 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr31 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDuque de Caxias, Nilópolis, São João de Meriti, Itaguaí Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22.9083°S 43.1964°W Edit this on Wikidata
Cod post20000-000 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholMunicipal Chamber of Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMarcelo Crivella Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.799 Edit this on Wikidata

Roedd y ddinas yn brifddinas ar Brasil am bron i ddwy ganrif, o 1763 tan 1822 yn ystod cyfnod trefedigaethol Portiwgal, ac o 1822 tan 1960 pan oedd yn wlad annibynnol. Rio de Janeiro oedd cyn-brifddinas yr Ymerodraeth Portiwgeaidd hefyd (1808 - 1821). Caiff y ddinas ei hadnabod yn aml fel "Rio", ac mae ganddi'r ffugenw A Cidade Maravilhosa, neu "Y Ddinas Fendigedig". Gelwir trigolion y ddinas yn "gariocas". Cân swyddogol Rio yw "Cidade Maravilhosa", gan y cyfansoddwr André Filho.

Dynodwyd rhan o'r ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd, o'r enw "Rio de Janeiro: Tirweddau Carioca rhwng y Mynydd a'r Môr", gan UNESCO ar 1 Gorffennaf 2012 fel 'Tirwedd Ddiwylliannol'.[3] Mae Rio de Janeiro yn enwog am ei lleoliad naturiol, dathliadau ei charnifal, samba a cherddoriaeth arall, a'r traethau twristaidd, fel Copacabana ac Ipanema.[4] Yn ogystal â'r traethau, mae'r ddinas yn enwog am ei cherflun enfawr o Grist, sy'n cael ei adnabod fel Crist y Iachawdwr ('Cristo Redentor') sydd ar ben mynydd Corcovado. Mae'r ddinas hefyd yn nodedig am Fynydd y Dorth Siwgr (Pão de Açúcar) gyda'r cherbydau gwifren; y Sambódromo, stand gorymdaith parhaol a ddefnyddir yn ystod Carnifal a Stadiwm Maracanã, sy'n un o stadiymau pel-droed mwyaf y byd.

Golygfa dros Rio de Janeiro o Fynydd y Dorth Siwgr

Er gwaethaf ei phrydferthwch, ystyrir Rio fel un o ddinasoedd mwyaf treisgar y byd,[5] sydd wedi ysbrydoli ffilmiau fel Bus 174, City of God ac Elite Squad sydd oll wedi amlygu nifer o faterion cymdeithasol difrifol. Lleolir llawe o'r troseddau treisgar yn y favelas neu'r trefi shanti ond fe'u gwelir hefyd mewn cymdogaethau dosbarth canol ac uwch. Yn wahanol i nifer o ddinasoedd eraill, lleolir nifer o'r slymiau gyferbyn â rhai o ardaloedd mwyaf cefnog y ddinas.

Ceir y fforest fwyaf a'r ail fwyaf yn y byd yn y ddinas hefyd: Floresta da Tijuca, neu "Fforest Tijuca" a'r goedwig yn Parque Estadual da Pedra Branca, sydd bron yn gysylltiedig â'r parc arall. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Galeão - Antônio Carlos Jobim yn cysylltu Rio de Janeiro gyda nifer o ddinasoedd eraill Brasil ac yn cynnig nifer o hediadau rhyngwladol hefyd.

Rio de Janeiro oedd gwesteiwr Gemau Olympaidd yr Haf 2016 a Gemau Paralympaidd yr Haf 2012, gan wneud y ddinas y ddinas gyntaf yn Ne America i gynnal y digwyddiadau hyn, erioed, a'r trydydd tro i'r Gemau Olympaidd gael eu cynnal mewn dinas yn Hemisffer y De. [6] Cynhaliodd Stadiwm Maracanã rowndiau terfynol Cwpan y Byd Pêl-droed 1950 a 2014, Cwpan Cydffederasiynau FIFA 2013, a Gemau Pan Americanaidd XV.

HanesGolygu

Hanes cyn goresgyniad yr EwropeadGolygu

Mae profion DNA wedi cadarnhau bod gan yr Indiaid Botocudo (difodwyd) a arferai fyw yn rhanbarth Espiritu Santo, ychydig i'r gogledd o Rio de Janeiro, DNA Polynesaidd. Roedd y Botocudo yn fwyaf adnabyddus am eu harfer o fewnosod plygiau pren mawr yn llabedau eu clustiau a'u gwefusau isaf.[7] Yn y cyfnod hwn, gwyddus fod dros 7 miliwn o frodorion yn byw yn yr hyn a elwir heddiw'n Brasil.[8]

Gwladychu EwropeaiddGolygu

 
Llun dychmygol gan Antonio Firmino Monteiro (1855-1888). Sefydlu Rio de Janeiro ar 1 Mawrth 1565

Daeth Ewropeaid ar draws Bae Guanabara yn gyntaf ar 1 Ionawr 1502 (bathiad yr enw Rio de Janeiro, "Afon Ionawr"), gan alldaith Portiwgaleg o dan yr archwiliwr a'r fforiwr Gaspar de Lemos, capten llong o'r enw Pedro Álvares Cabral, neu o bosib o dan Gonçalo Coelho.

Y brodorion Tupi, Puri, Botocudo a Maxakalí oedd yn byw yma cyn dyfodiad yr Ewropeaid.[9]

Y goresgynwyrGolygu

Daeth Ewropeaid ar draws Bae Guanabara yn gyntaf ar 1 Ionawr 1502 (bathiad yr enw Rio de Janeiro, "Afon Ionawr"), gan alldaith Portiwgaleg o dan yr archwiliwr a'r fforiwr Gaspar de Lemos, capten llong o'r enw Pedro Álvares Cabral, neu o bosib o dan Gonçalo Coelho.[10] Yn 1555, meddiannwyd un o ynysoedd Bae Guanabara, a elwir bellach yn Ynys Villegagnon, gan 500 o wladychwyr o Ffrainc o dan y llyngesydd Ffrengig Nicolas Durand de Villegaignon. O ganlyniad, adeiladodd Villegagnon Caer Coligny ar yr ynys wrth geisio sefydlu trefedigaeth Ffrainc Antarctique. Ond daeth yn ormod o fygythiad i'r Wladfa Portiwgaleg sefydledig ac ym 1560 gwnaed y gorchymyn i gael gwared ar y milwyr Ffrengig. Cychwynnwyd ymosodiad milwrol a barodd flwyddyn o hyd gan Lywodraethwr Cyffredinol newydd Brasil Mem De Sa, ac fe’i parhawyd yn ddiweddarach gan ei nai Estacio De Sa. Ar Ionawr 20, 1567, gorchfygwyd lluoedd Ffrainc a chawsant eu diarddel o Frasil am byth.

Sefydlwyd y Rio de Janeiro presennol gan y Portiwgaliaid ar 1 Mawrth 1565 ac fe’i henwyd yn São Sebastião do Rio de Janeiro, er anrhydedd i Sant Sebastian, y sant a oedd yn enw ac yn noddwr Brenin Portiwgalaidd ar y pryd, sef Sebastião. Rio de Janeiro oedd enw Bae Guanabara. Tan yn gynnar yn y 18g, ymosodwyd ar y ddinas gan nifer o fôr-ladron Ffrengig, fel Jean-François Duclerc a René Duguay-Trouin.[11]

Erbyn diwedd yr 17g, darganfu’r Bandeirantes aur a diemwntau yn Minas Gerais, ardal gyfagos, ac felly daeth Rio de Janeiro yn borthladd llawer mwy ymarferol ar gyfer allforio cyfoeth (aur, cerrig gwerthfawr a'r siwgr) na Salvador, Bahia, ymhellach i'r gogledd-ddwyrain. Ar 27 Ionawr 1763, symudwyd y ganolfan weinyddol o Salvador i Rio de Janeiro.[12] Arhosodd y ddinas yn brifddinas drefedigaethol yn bennaf tan 1808, pan symudodd teulu brenhinol Portiwgal a'r rhan fwyaf o uchelwyr Lisbon cysylltiedig, a oedd yn ffoi rhag goresgyniad Napoleon o Bortiwgal, i Rio de Janeiro.

DaearyddiaethGolygu

Mae Rio de Janeiro ar ran orllewinol bellaf llain o arfordir Môr Iwerydd (rhwng culfor i'r dwyrain i Ilha Grande ar y Costa Verde, a'r Cabo Frio), yn agos at DTrofan yr Afr (neu Drofan Capricorn), ac mae'r draethlin yn gogwyddo o'r dwyrain i'r gorllewin. Yn wynebu'r de i raddau helaeth, sefydlwyd y ddinas ar gilfach o'r darn hwn o'r arfordir, Bae Guanabara (Baía de Guanabara), ac mae ei fynedfa wedi'i nodi gan bwynt o dir o'r enw y Mynydd Siwgwr (Pão de Açúcar).[13]

Mae'r rhan fwyaf o'r ddinas, y cyfeirir ati'n aml fel "Parth y Gogledd" (Zona Norte, Rio de Janeiro [pt]), yn ymestyn i'r gogledd-orllewin ar wastadeddau sy'n cynnwys gwaddodion morol a chyfandirol ac ar fryniau a sawl mynydd creigiog. Mae "Parth De" (Zona Sul) y ddinas, sy'n cyrraedd y traethau ar gyrion y môr agored, yn cael ei dorri i ffwrdd o'r canol ac o Barth y Gogledd gan fynyddoedd arfordirol. Mae'r mynyddoedd a'r bryniau hyn yn ardaloedd anghysbell o'r Serra do Mar i'r gogledd-orllewin, y gadwyn fynyddoedd gneis-wenithfaen hynafol sy'n ffurfio llethrau deheuol Ucheldir Brasil. Mae'r Parth Gorllewinol mawr (Zona Oeste), a gafodd ei dorri i ffwrdd gan y tir mynyddig miliynau o flynyddoedd yn ol, yn fwy hygyrch ac agored i'r rhai ym Mharth y De oherwydd codi ffyrdd a thorri twneli newydd erbyn diwedd yr 20g.[14]

Adeiladau a chofadeiladauGolygu

  • Arcos da Lapa
  • Cerfddelw Crist Gwaredwr
  • Museu Nacional de Belas Artes (amgueddfa)
  • Stadiwm Engenhão

EnwogionGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rio de Janeiro: travel guide". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2015. Cyrchwyd 14 Mai 2015.
  2. https://www.ibge.gov.br/estatisticas/sociais/populacao/9103-estimativas-de-populacao.html.
  3. "Rio de Janeiro: Carioca Landscapes between the Mountain and the Sea". UNESCO. 1 July 2012. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2012.
  4. "Rio de Janeiro's Beach Culture" Tayfun King, Fast Track, BBC World News (11 Medi 2009)
  5. Rio hit by deadly gang violence BBC NEWS. Americas. Adalwyd 26-04-2009
  6. "BBC Sport, Rio to stage 2016 Olympic Games". BBC News. 2 Hydref 2009. Cyrchwyd 4 Hydref 2009.
  7. adventure-life.com; adalwyd 28 Mawrth 2021.
  8. Levine, Robert M. (2003). The History of Brazil. Palgrave Macmillan. t. 32. ISBN 978-1-4039-6255-3.
  9. Zimring, Carl A. (27 Chwefror 2012). Encyclopedia of Consumption and Waste: The Social Science of Garbage. ISBN 9781506338279. Cyrchwyd 23 Medi 2016.
  10. Jorge Couto, 1995, A Construção do Brasil, Lisbon: Cosmos.
  11. "History of Rio". Paralumun.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 December 2008. Cyrchwyd 17 Ebrill 2010.
  12. Alex Robinson; Gardenia Robinson (2014). Rio de Janeiro Footprint Focus Guide: Includes Maracana Stadium, Copacabana, Paraty, Ilha Grande, Ipanema. Footprint Travel Guides. t. 28. ISBN 978-1-909268-88-3.
  13. "Where is Rio de Janeiro?". Riobrazilblog.com. 8 Mawrth 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 12 Mawrth 2013.
  14. Rio de Janeiro – History.com Articles, Video, Pictures and Facts Archifwyd 22 August 2011[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.


  Eginyn erthygl sydd uchod am Frasil. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.